Yn ystod y misoedd diwethaf mae disgyblion Ysgol Pentreuchaf ac Ysgol Hafod Lon wedi cydweithio yn agos iawn gyda’i gilydd ar ‘Prosiect Eco Bric’.
Cafwyd cyfarfod cyntaf yn yr Ysgol Pentreuchaf o dan arweiniad Sara Pierce Roberts, athrawes Bl 1 a 2 yn Ysgol Pentreuchaf. Daeth y ddwy ysgol at ei gilydd i ddysgu hanes yr eco bric a sut oedd mynd o gwmpas i gasglu plastig i lenwir poteli plastig i greu eco bric.
Daeth rhieni Ysgol Pentreuchaf at ei gilydd ddwy noson ar ôl ysgol i gael sesiynau creu eco brics a bu disgyblion y ddwy ysgol wrthi yn ddiwyd yn yr ysgol yn gwneud y gwaith hefyd.
I wneud un eco bric mae angen un botel dau litr plastig gyda’r caead.
Mae angen llenwi’r botel hefo plastig tenau na ellir ei ailgylchu; mae’r plastig yma yn cael ei fwydo i mewn i’r botel blastig nes eu bod yn llawn a bod y caead yn cau ar y cwbl.
Crëwyd 95 o’r eco briciau yma yn y prosiect, gan ddefnyddio 39,000g o blastig meddal a phenderfynwyd creu mainc eistedd i’w lleoli yng ngardd Ysgol Pentreuchaf.
Felly os fyddwch yn ymweld ag Ysgol Pentreuchaf unrhyw adeg cofiwch edrych allan amdani.
Mae’r fainc gyda 95 eco bric, yn dal sedd blastig wedi ei gwneud o blastig wedi’i ail gylchu, sy’n werth ei weld.
Bydd yn atgof o’r prosiect ac o amser Sara Roberts yn yr ysgol, hithau’n anffodus wedi gorfod symud ymlaen a chychwyn swydd newydd yn Ysgol Bodedern, yn Ynys Môn. Tybed os fydd mainc eco bric yn cael ei greu ar y safle yna!





.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.