Ar Ddydd Sadwrn, 20fed o Ebrill, gwnaeth Rebecca Sweeney (Dirprwy Reolwr) a Gwenno Lewis (Arweinydd Ystafell yr Enfys) wneud naid byngi er mwyn codi arian ar gyfer prynu adnoddau newydd i Meithrinfa Camau Bach, Aberystwyth. Braf yw gallu cadarnhau bod y ddwy wedi llwyddo i wneud y naid a dychwelyd nôl yn ddiogel i’n plith o fewn y feithrinfa. Codwyd swm sylweddol o £1372.00 ac mae’r diolch yn mynd i bawb a wnaeth gyfrannu mor hael tuag at yr achos. Diolch enfawr i'r ddwy am neud ac am fod mor ddewr!
Camau Bach Nursery raise £1,372 for new resources.
On Saturday 20th of April, Rebecca Sweeney (Deputy Manager) and Gwenno Lewis (Yr Enfys Room Leader) did a Bungie Jump to raise money for Camau Bach Nursery, Aberystwyth. Both undertook the bungie jump and raised a staggering £1372.00. We would like to thank everyone who generously contributed and a huge thanks to Rebecca and Gwenno, who were both very brave!