Cyngor Cymuned

TRAFODWYD gweithredoedd y cae chwarae gan ei bod yn angenrheidiol i’r cyfreithiwr eu cael os am fwrw ymlaen i baratoi papurau llys yn erbyn John Wetton, perchennog eiddo y Wilds. Mae’r peiriannydd Mike Scott wedi hysbysu y cyngor y dylid cau y cae os oes mwy na 10mm o symudiad tir. Penderfynwyd peidio a chau y cae ar hyn o bryd gan nad oes arwydd o dir yn llithro, ond i barhau i fonitro yn ddyddiol a chau ar unwaith os oes symudiad.Derbyniwyd adroddiad ariannol gan Llyr Williams ar ran Pwyllgor Apêl y Cae Chwarae: Mae’r pwyllgor yn ymgeisio am grant gan gronfa AHNE i brynu sleid newydd sydd yn costio oddeutu £7,000. Mae aelodau y pwyllgor yn bwriadu cyfrannu eu hamser yn wirfoddol tuag at wneud gwaith cynnal a chadw ar yr offer yn ôl argymhellion adroddiad archwiliad y cae chwarae.Materion ffyrdd mis Hydref: Hysbysfyrddau o flaen busnesau ym mhentref Aberdaron: Bydd y Gwasanaeth Trafnidiaeth a Gofal Stryd yn asesu y sefyllfa yn ystod misoedd yr haf.Arwydd croesffordd Penycaerau: Mae’r gwaith wedi ei ymrwymo ar raglen waith y cyngor.Cyfrifoldeb petai damwain yn digwydd oherwydd cerrig/brigau etc sydd yn sticio allan o gloddiau yn is na 1 medr oddi wrth wyneb y ffordd: Adroddodd y swyddog mai cyfrifoldeb grrwyr ydi grru yn ystyriol a gofalus.Ffordd Anelog: Mae arolygon o’r systemau draenio yn cael eu paratoi ar hyn o bryd er mwyn prisio y gwaith angenrheidiol er mwyn ei ystyried ar sail blaenoriaeth angen. Ni ellir cadarnhau amserlen ar gyfer y gwaith ar hyn o bryd. Mae blaenoriaethau yn cael eu hasesu a’u hadolygu yn rheolaidd er mwyn gwneud y gorau o’r gyllideb sydd ar gael.Ty’r Ysgol, Deunant: Derbyniwyd adroddiad gan Gyngor Gwynedd yn datgan bod cymal amod lleol wedi ei roi ar yr eiddo, sydd bellach ar werth. Safle Ysgol Llidiardau: Derbyniwyd adroddiad gan Arfon Hughes yn egluro bod Grwp Cynefin yn y broses o brynu y safle gan Gyngor Gwynedd a gobeithir y bydd y pryniant wedi ei gwblhau erbyn y Nadolig. Mae sefydlu cronfa ar gyfer codi tai ar y safle yn mynd trwy gabinet Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd a bydd y gronfa ar gael erbyn mis Ebrill.Cynhelir y cyfarfod nesaf o’r cyngor yng Nghanolfan Deunant, nos Lun, 14 Rhagfyr, am 7.30y.h.