Yr wythnos hon cyhoeddir atgofion un o ddiddanwyr mwyaf cyfarwydd Cymru – Glan Davies. Mae O’r Aman i’r Ystwyth wedi’i ysgrifennu ar y cyd ag Alun Wyn Bevan, a fagwyd ar yr un stryd â Glan ym Mrynaman.

Meddai Glan: “Mae yna dipyn i’w ddweud a llu o atgofion mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys atgofion yng nghwmni rhai o hoelion wyth Cymru.

“Mae’r holl ddiddordebau yn golygu bod bywyd wedi bod yn brysur iawn.”

Mae Gareth Jones wedi adnabod Glan yn dda ar hyd ei oes, ac meddai yn y dyflwyniad i’r gyfrol: “Gloywodd y doniau byrlymus hyn yn gynnar iawn o fewn y pentre.

“Byddai ei dalentau cyhoeddus yn amlygu eu hunain yn y capel, mewn sioeau, cyngherddau, eisteddfodau, comedïau a dramâu.

“Hyd yn oed yn grwt ifanc byddai yng nghanol pob peth. Allwch chi ddychmygu criw o blant yn chwarae ‘cynnal cyfarfod’ gydag agenda a phopeth wrth law? Dyna Glan.”

Ceir penodau diddorol am dyfu lan – am griced, ac am ei addysg – gan ddisgrifio’r “diwrnod gwaetha’” yn ei fywyd pan ddaeth Mr George, prifathro Ysgol Gynradd Brynaman a chyhoeddi enwau’r plant oedd wedi pasio’r 11+.

Doedd Glan ddim yn un ohonyn nhw.

Ar ôl dilyn cwrs yn y Coleg Technegol lleol dechreuodd yrfa yn y byd adeiladu.

Hefyd bu’n cystadlu yn eisteddfodau’r capel a chyda’r Urdd, ac wrth ei fodd yn perfformio ar lwyfan.

“Mae wedi bod yn braf hel atgofion a chael cyfle i gydnabod y cyfeillion ’nath fy nysgu a’m hysgogi – heb eu cyfraniad nhw fyddai fy mywyd yn hollol wahanol,” meddai Glan.

Ceir hefyd hanesion am y byd pop Cymraeg yn y 60au a 70au gan gynnwys straeon am Ryan a Ronnie a dechrau ar Hob y Deri Dando, rhaglen a wnaeth agor y drws i’r byd pop Cymraeg. Bu Glan yn wyneb cyson ym myd adloniant ysgafn S4C ar ôl hyn, gan berfformio ar Noson Lawen ac actio ar Pobol y Cwm.

Ynghyd â’i waith perfformio, mae Glan wedi gwirfoddoli llawer o’i amser at achosion da, gyda’i awydd i wasanaethu pobl, yn arbennig yr anffodusion a’r diymgeledd, yn gryf. Dechreuodd ei ddegawdau o waith elusennol gyda chodi arian i ailadeiladu Clwb Rygbi Aberystwyth ar ôl i’r adeilad losgi’n ulw. Trwy ei ffrind Ronnie Williams llwyddodd i gael Ken Dodd a’r Diddymen i berfformio. Mae Glan wedi helpu nifer fawr o achosion da eraill gan gynnwys Plant Mewn Angen, Sefydliad Prydeinig y Galon, Calonnau Cymru ac achosion lleol yn Aberystwyth a Cheredigion, lle mae Glan wedi ymgartrefu.

Drwy siawns, dechreuodd gwmni teithio Teithiau Amser da a Theithiau Glan Tours, a cheir yr atgofion o rai o’r teithiau mwyaf cofiadwy yma yng Nghymru, yn Ewrop ac ar draws y byd.

Mae O’r Aman i’r Ystwyth gan Glan Davies gydag Alun Wyn Bevan ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).