Nos Sadwrn diwethaf daeth criw dda o bobl ynghyd i ganlyn y Fari Lwyd yn ardal Mallwyd a Dinas Mawddwy, i gydfynd â’r arfer o ddathlu’r Hen Galan.
Dyma’r 21fed tro i’r traddodiad ddigwydd yn yr ardal, ac mae’n dda gweld cyn nifer o gefnogwyr yn mwynhau’r achlysur.
Cychwynnodd y daith yn ôl yr arfer yn y Brigand’s Inn ym Mallwyd, cyn symud ymlaen i Dŷ Meirion, Mynllyn cyn dod â’r noson i ben yn swnllyd iawn yn y Llew Coch yn Ninas Mawddwy.
Traddodiad sy’n mynd yn nôl i ddiwedd y ddeunawfed ganrif a ddechreuodd yn Sir Benfro ac wedyn i Sir Gaerfyrddin yw’r Fari Lwyd.
Gorchuddir penglog ceffyl gyda lliain gwyn, a gosod rhubanau amryliw yn arddurn, gyda llygaid gwydr.
Yna mae’r penglog yn cael ei osod ar ddarn o bren, ac mae’r holl beth yn cael ei gario gan ŵr sydd wedi ei orchuddio gan y lliain gwyn.
Arweinir y Fari Lwyd gan un ymhlith criw o ddynion a hogiau, a’r traddodiad yw eu bod yn mynd o dŷ i dŷ gan ganu pennillion mewn ymgais i ddarbwyllo’r merched i’w caniatau i fynd mewn i’r tŷ i ymuno a hwy.
Daeth Parti Dawnswyr Aberystywth i ddiddanu gyda dawnsfeydd traddodiadol, a hefyd Band Osian Morris a’i ffrindiau yn canu caneuon Cymraeg traddodiadol.



.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.