Gwawriodd yr ail ddydd Sadwrn ym mis Chwefror, ac agorwyd drysau’r Ganolfan i groesawu Eisteddfod Flynyddol Abergynolwyn yn ôl ar ôl dwy flynedd o seibiant achos Cofid.
Braf oedd cael croesawu’r beirniaid, Helen Medi Williams (Cerdd) a Beryl Vaughan (Llefaru), a fu yn brysur iawn rhwng y ddau gyfarfod yn lleoli’r cystadleuwyr talentog.
Roedd Tudur Jones, Tywyn yn ôl ei arfer yn cyfeilio mor fendigedig i’r unawdwyr drwy’r dydd. Roedd presenoldeb Ysgol Craig y Deryn yn amlwg yn cyfarfod y prynhawn gyda’r holl swmperi coch yn cymeryd rhan.
Ein beirniad gwaith cartref eleni oedd Mr a Mrs Pierce yn beriniadu’r llenyddiaeth cynradd a Marcia Hammond yn beirniadu’r gwaith celf. Roeddynt wedi cael ei plesio yn fawr iawn ac yn llongyfarch pawb a fu’n cystadlu.
Llywydd y dydd oedd Aranwen Jarman a chawsom sgwrs ddifyr am eu hanes.
Beryl Griffiths oedd ein beirniad Llenyddiaeth agored ac roedd hithau fel y beirniad eraill yn canmol y gwaith.
Gyda tristwch y cyhoeddwyd fod ein ysgrifennyddes sef Gwen Williams yn rhoi gorau i’r swydd ar ôl wyth mlynedd a bod Robert Jones ein trysorydd yn rhoi’r ffidl yn y to ar ôl 27 o flynyddoedd wrth y llyw. Dymunwn fel pwyllgor ddiolch yn ddi-ffuant i’r ddau am eu gwaith di-flino dros yr holl flynyddoedd.
Diolchwn hefyd i Eileen Jones am bob cymorth.
Diolch i Cyng Beth Lawton, Edward Tudor Jones a Dafydd Jones am arwain cyfarfod y prynhawn a’r nos mor drefnus.
Braf oedd cael cynnal eisteddfod eto yn y pentre, ac edrychwn ymlaen at y dyfodol. Gwerthfawrogi’r pob cefnogaeth i’r ‘Steddfod a mawr yw dyled y pwyllgor i’r rhai hynny sydd mor gefnogol i’w hymdrechion flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Isod mae’r canlyniadau.
Unawd Meithrin a Derbyn: 1, Gwilym Pennant Jones, Llanbrynmair; 2, Reuben Gibbins, Ysgol Craig y Deryn. Llefaru Meithrin a Derbyn: 1, Gwilym Pennant Jones, Llanbrynmair; 2, Reuben Gibbins, Ysgol Craig y Deryn. Unawd Bl 2 ac Iau: 1, Owain Jones, Ysgol Craig y Deryn. Llefaru Bl 2 ac Iau: 1, Owain Jones, Ysgol Craig y Deryn. Unawd Bl 3 a 4: 1, Aron Wyn Davies, Llanbrynmair; 2, Isla Jones, Ysgol Craig y Deryn; cydradd 3, Emrys Jarman, Llanycil a Amy Roberts, Tywyn. Llefaru Bl 3 a 4: 1, Aron Wyn Davies, Llanbrynmair; 2, Isla Jones, Ysgol Craig y Deryn; 3, Emrys Jarman, Llanycil. Unawd Cerdd Dant Bl 4 ac Iau: 1, Emrys Jarman, Llanycil. Unawd Bl 5 a 6: 1, Jessica Gibbins, Ysgol Craig y Deryn; 2, Lilly Glenc, Ysgol Craig y Deryn; 3, Gwilym Jones, Ysgol Craig y Deryn. Llefaru 5 a 6: 1, Gwilym Jones, Ysgol Craig y Deryn; 2, Evie Hodges, Ysgol Craig y Deryn; 3, Ruby Bailey, Ysgol Craig y Deryn.
Gwaith Celf – Meithrin: 1, Alice Lewis, Ysgol Craig y Deryn; 2, Arabella Bradbury-Willis, Ysgol Craig y Deryn; 3, Bella Fox, Ysgol Craig y Deryn. Derbyn: 1, Elsie Ellis, Ysgol Craig y Deryn; 2, Rory Caro, Ysgol Craig y Deryn; 3, Gracie Hughes, Ysgol Craig y Deryn. Bl 1 a 2: 1, Quinn Caro, Ysgol Craig y Deryn; 2, Owain Jones, Ysgol Craig y Deryn; 3, Isla Wilkes, Ysgol Craig y Deryn. Bl 3 a 4: 1, Jack Pugh, Ysgol Craig y Deryn; 2, Caylen Fox, Ysgol Craig y Deryn; 3, Kian Alexander, Ysgol Craig y Deryn. Bl 5 a 6: 1, Flynn Nicholls, Ysgol Craig y Deryn; 2, Gwilym Jones, Ysgol Craig y Deryn; 3, Sara Williams, Ysgol Craig y Deryn.
Llenyddiaeth – Meithrin a Derbyn: 1, Reuben Gibbins, Ysgol Craig y Deryn; 2, Gracie HughesYsgol Craig y Deryn; 3, Silyn Ifan, Pennal. Bl 1 a 2: 1, Henry Thorpe, Ysgol Craig y Deryn; 2, Rosie Pugh, Ysgol Craig y Deryn; cydradd 3, Isla Wilkes a Niamh Hooper, Ysgol Craig y Deryn. Bl 3 a 4: 1, Jack Pugh, Ysgol Craig y Deryn; cydradd 2, Alexis Gregory ac Isla Jones, Ysgol Craig y Deryn; cydradd 3, Edward Turner a Eddie Thorpe, Ysgol Craig y Deryn. Bl 5 a 6: 1, Eva Crisp, Ysgol Craig y Deryn; 2, Jos Turner, Ysgol Craig y Deryn; cydradd 3, Evie Hodges a Flynn Nicholls, Ysgol Craig y Deryn.
Unawd Piano Bl 9 ac Iau: 1, Aneira Jones, Llanegryn; 2, Deio Terrance Jones, Llanbrynmair; 3, Gwenlli Pennant Jones, Llanbrynmair. Llefaru Bl 7 i 9: 1, Melena Gwynn Aled, Parc y Bala; 2, Aneira Jones, Llanegryn; 3, Deio Terrance Jones, Llanbrynmair. Unawd Merched Bl 7 i 9: 1, Melena Gwynn Aled, Parc y Bala; 2, Gwenlli Pennant Jones, Llanbrynmair. Unawd Offeryn Bl 9 ac iau (heblaw piano ac offeryn pres): 1, Melena Gwynn Aled, Parc y Bala; 2, Aneira Jones, Llanegryn. Unawd Alaw Werin Bl 7 i 9: 1, Gwenlli Pennant Jones, Llanbrynmair. Unawd offeryn Pres Bl 9 ac Iau: 1, Gwenlli Pennant Jones, Llanbrynmair; Unawd offeryn Bl 10 i 13: 1, Lea Mererid, Pwllheli; 2, Heledd Owen, Bryncrug.
Cyfarfod yr Hwyr – Cystadleuaeth Band Pres: 1, Seindorf Arian Abergynolwyn. Unrhyw Offeryn – Agored: 1, Lea Mererid, Pwllheli; 2, Sophie Davies. Llefaru dan 18 oed: 1, Erin Llwyd, Glanrafon. Rhyddiaeth dan 18 oed: Lleucu Hughes, Llanuwchllyn. Englyn: John Francon Griffiths, Abergele. Telyneg: Judith Morris, Penrhyncoch. Rhyddiaeth rhwng 18 a 21: Tesni Elen Peers, Rhosllanerchrugog. Llefaru dan 25 oed: 1, Erin Llwyd, Glanrafon; 2, Huw Jarman, Tal y Llyn. Canu Emyn dros 55 oed: 1, Mari Ann Powell, Llandre; 2, Aled Jones, Comins Coch. Cystadleuaeth Sgen ti dalent: 1, Rhys Jones, Dinmel. Unawd Sioe Gerdd: 1, Erin Llwyd, Glanrafon. Tlws Côr Cymysg Bro Dysynni i’r cerddod mwyaf addawol dan 25 oed: Lea Mererid, Pwllheli. Limrig: Aeryn Jones, Dinmel. Brawddeg: 1, Gwilym Bryniog Davies, Melin y Coed. Cân Werin Agored: 1, Mari Ann Powell, Llandre; 2, Aled Jones, Comins Coch.
Cystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau Cymru – Llefaru neu cyflwyno darn digri – agored: 1, Erin Llwyd, Glanrafon; 2, Rhys Jones, Dinmel. Prif Lefaru: 1, Maria Evans, Caerfyrddin; 2, Rhys Jones, Dinmel. Unawd Gymraeg: 1, Mari Ann Powell, Llandre; 2, Aled Jones, Comins Coch. Her Unawd: 1, Mariann Powell, Llandre.



.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.