Golygydd
Ysgrifennaf atoch i ddweud fy mod i wedi darllen erthygl yn adran chwaraeon y BBC heddiw, a rhaid dewud fy mod i’n cytuno’n llwyr â rheolwr Lloegr Gareth Southgate a’r prif weinidog Boris Johnson wrth iddynt gondemnio’r camdrinaeth hiliol tuag at Marcus Rashford, Jadon Sancho a Bukayo Saka ar ôl i dîm Lloegr gael ei drechu gan yr Eidal yn rownd derfynol Euro 2020.
Dwi’n meddwl bod Marcus Rashford wedi bod yn dda iawn yn ei ymgyrch yn erbyn tlodi bwyd a dyma’r diolch y mae’n ei gael. Mae’n gwbl warthus a dweud y lleiaf.
Dwi’n meddwl a dwi’n si?r y bydd nifer fawr o bobl yn cytuno gyda mi fod Marcus Rashford yn haeddu gwell na hyn o lawer.
Mae gen i neges i’r rhai sydd wedi gwneud y sylwadau hiliol – rhag eich cywilydd. Cofiwch bod chwaraewyr Lloegr yn bobl gyda theimladau.
Rhian Jones Blaenau Ffestiniog
Have your say on the local issues affecting you - email [email protected] or join in the conversation on our Facebook page






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.