THE latest community News from Ganllwyd

Merched y Wawr

CYNHALIWYD cyfarfod cyntaf y tymor yn y Neuadd Bentref, nos Lun, 5 Medi.

Cydymdeimlwyd â Catherine, Eirlys, Evelyn a Gwen oedd wedi cael profedigaeth yn ystod yr wythnosau diwethaf a llongyfarchwyd Doreen ar ddod yn hen nain.

Pasiwyd i dderbyn gwahoddiad oddi wrth gangen Dolgellau i fynd atynt i ddathlu Gwyl Ddewi ar 7 Mawrth.

Pasiwyd hefyd i gynnal stondin tombola er budd Merched y Wawr yn Sioe Ganllwyd ar 16 Medi, a gofynnir i bawb o’r aelodau gyfrannu.

Wedyn daeth Doreen, un o’n haelodau i sôn am ei hanes yn blentyn yn ystod y rhyfel yn ne Lloegr.

Nid oedd yn siarad Cymraeg yr adeg honno, ond erbyn hyn mae’n Gymraes rugl ac yn un o’r rhai sefydlodd gangen Merched y Wawr yn y Ganllwyd 50 mlynedd yn ôl.

Soniodd am y cyrchoedd awyr a’r rhedeg i’r ‘air raid shelter’, am y dogni bwyd a llawer mwy, ac felly daeth i Gymru’n faciwî yn ddiweddarach.

Diolchwyd iddi gan y llywydd a chawsom baned gan Iola ac Eirian, a chacen wedi ei haddurno i ddathlu penblwydd y mudiad yn hanner cant.

Bydd ein cyfarfod nesaf ar 2 Hydref yng nghwmni Bet Hughes.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]