THE latest community news from Lampeter
Oedfa Sul yr Urdd
Braf oedd gweld cynulliad teilwng iawn wedi dod ynghyd i Noddfa yn ddiweddar i Oedfa Sul yr Urdd.
Cymerwyd rhan gan dros 30 o aelodau’r Adran a’r Aelwyd yn amrywio o 7 hyd 16 oed a phawb yn rhoi o’u gorau.
Cyflwynwyd adroddiadau, gweddïau, deuawd cerdd dant, unawdau, darlleniadau, unawd telyn a datganiadau swynol iawn gan Gôr yr Adran gyda Rhiannon yn arwain a Lois yn cyfeilio.
Hefyd bu aelodau’r Adran yn canu emyn buddugol Eisteddfod Llambed eleni a hyfryd oedd cael awdur y geiriau gyda ni sef Megan Richards o Aberaeron.
Yna cafodd y gynulleidfa gyfle i ganu’r emyn.
Yn ‘Neges heddwch ac ewyllys da pobol ifanc Cymru i’r byd’ yn gynharach yn y flwyddyn, rhoddwyd sylw arbennig i ddau air, sef Diolch a Gobaith.
Felly thema yr Oedfa oedd, ‘Gyda’n gilydd, rhoddwn ddiolch am obaith’. Eleni gan fod Heddlu Dyfed Powys yn dathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu, rhoddwyd cryn dipyn o sylw waith yr heddlu.
Trwy gyfrwng technoleg, a chymorth Lois, diddorol iawn oedd gwrando ar neges ar y sgrin gan Guto Gwilym, cyn aelod o’r Adran a’r Aelwyd sydd yn gwirfoddoli gyda’r Heddlu yng Nghaerdydd ac wedi ei ddyrchafu i Ringyll yn ddiweddar.
Bu’n sôn am ei ddyletswyddau o amgylch Caerdydd ac roedd ei frwdfrydedd a’i ymroddiad i’r gwaith yn amlwg a’r cyfan wrth gwrs yn ddi-dâl.
Diolchodd Elan i’n gwesteion am eu cefnogaeth, sef Y Maer Ann Morgan a’i Chonsort Y Parch Athro Densil Morgan, y Cynghorydd Hag Harris, Cadeirydd Cyngor Ceredigion ac Eiry Morgan, Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu, Anwen Eleri, Swyddog Datblygu’r Urdd a Megan Richards.
Talodd deyrnged i bawb oedd wedi cymryd rhan ac yn arbennig i Guto, i Delyth am ei gwasanaeth wrth yr organ, i Lois ac Eirian am gyfeilio i’r eitemau, i’r tîm a fu wrthi eleni eto yn hyfforddi ac yn trefnu sef Rhiannon, Elin, Llinos, Lois a Janet ac yn olaf ond nid y lleiaf i’r Parch Athro Densil Morgan ac aelodau Noddfa am gael cynnal ein gwasanaeth yno.
Hefyd datganodd ei gwerthfawrogiad i bawb am eu presenoldeb a’u cyfraniadau hael tuag at Hosbis T? Hafan.
Wrth droi tuag adref roedd pawb yn uchel iawn eu canmoliaeth o gyfraniadau aelodfau’r Urdd mewn gwasanaeth arbennig iawn.
Cymdeithas Hanes Llambed
THE December meeting of Hanes Llambed took place at the Lampeter campus of the University of Wales Trinity St David.
The speaker was Dr Gwendraeth Morgan, who spoke about Spooks and Saints as seen through the folklore of Wales. She spoke about customs and traditions associated with the new calendar year - some of which were rooted in Roman times. One of her themes concerned taboos, such as not walking under a ladder, and the number 13.
The saying “touch wood” was a tradition linked to a belief that trees (that is wood) contained bad spirits and that if you expressed a hope for the future you should touch, or knock on, wood to prevent the spirits from hearing and presumably preventing your hope occurring.
Rowan or mountain ash was believed to be able to keep away evil spirits. With the arrival of Christianity it became regarded as a protection from evil. Dr Morgan explained how a tradition sometimes evolves over time. She gave several examples of water gods and the washing of sick people at holy wells, with a belief that the water had healing properties.
She went on to talk about the symbolic significance of birds such as the robin which is regarded as an omen of good luck.
Other examples were the wren, and a cockerel crowing at night. In her wide-ranging talk the speaker referred to the practice of burying people who had committed suicide at crossroads. Also that fire was a sign of ownership.
As this was the Christmas meeting of the history society, the evening concluded with mulled wine and mince pies.
The January meeting will take place on Tuesday, 15 January, when James January McCann will speak about ‘Collecting Welsh place names’.
There was a great party at the last bridge session of 2018. They also played cards! Top results were: 1, Andrew Phillips and John Evans (68 per cent); 2, Martin Davies and Gwenda Davies (55 per cent); 3, Keith Bellamy and John Valentine (54 per cent).
The be starting again on Tuesday,8 January. The club meets at 6.45pm, at Hafan Deg Retirement Home.
Just turn up if you’d like lessons or come to play. Or contact Keith on 01974 298811.
St Peter’s Church
SUNDAY, 30 December: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, Morning Worship (bilingual).
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.