THE latest community news from Llanarth
Eisteddfod
CYNHELIR Eisteddfod Ysgol Llanarth ar 6 Hydref, yn neuadd y pentref gan ddechrau am 12.30yp.
Ac yna, ar ddydd Sadwrn, 7 Hydref, bydd Eisteddfod Gadeiriol Llanarth yn dechrau am 2yp.
Y cystadlaethau llenyddol yw: Cerdd Ddigri ar y testun ‘Pam?’; Limerig â’r frawddeg gyntaf ‘Yn Llanarth, bu tipyn o firi’; Brawddeg o’r gair ‘Dyfyniad’ ynghyd â chystadleuaeth gwobr Llenyddiaeth yr Ifanc.
Beirniad yr adran Llên yw Meinir Ebbsworth, Brynamlwg, Llanwnnen, Llambed, Ceredigion SA48 7LT a dylid danfon y cyfansoddiadau iddi erbyn 30 Medi, a’r ffug enwau at ysgrifennydd yr eisteddfod, Catrin Bellamy Jones, Pantyrhendy, Llanarth SA470QS, erbyn 2 Hydref.
Llywydd yr eisteddfod fydd Hywel Thomas, Aberaeron.
Os am fwy o fanylion ynglyn â’r eisteddfod, cysylltwch â Catrin ar 01545 580279.
Croeso cynnes i bawb.
Bydd yr adran agored yn dechrau am 2yp.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.