THE latest community news from Llandysul

CyD

Pwy sy eisiau cwrdd ar nos Iau, 20 Rhagfyr yng Ngwesty’r Porth am 7.45yh?

Diod Nadolig a chlonc yn Gymraeg. Rhowch wybod i Lesley os ydych chi’n dod, neu beidio.

Croeso i Gerddwyr

TAITH Gerdded Hanes Ystâd Waunifor ar ddydd Sadwrn, 29 Rhagfyr, pellter o tua 3.5 milltir, ceir sticlau.

Cwrdd yn Siop Dewi, Capel Dewi (SA44 4PH) am 12.45yp i ddal y bws mini i ddechrau yn Neuadd Gymunedol Llanllwni.

Dewch i fwynhau taith gerdded ar ôl y Nadolig a dysgu am hanes stad y Waunifor. Gorffen gyda paned o de yn Neuadd Capel Dewi.

Dim c?n ar y bws mini, ond mae croeso iddynt ar y daith gerdded.

Gallai c?n a pherchnogion gyfarfod yn Neuadd Gymunedol Llanllwni (SA39 9DR) ger yr eglwys ym Maesycrugiau am 1yp a gall gyrwyr gael lifft yn ôl i’w ceir yn y bws mini. £2 y person, plant o dan 16 oed am ddim.

Am fanylion pellach, ffoniwch Tom Cowcher: 01559 353200.

Carmel

NOSON o ganu carolau a gafwyd ar nos Sul, 9 Rhagfyr yng nghwmni’r arweinydd, y Cyng Keith Evans a gafodd pawb i ganu ar eu gorau.

Cafwyd gwledd gan yr artistiaid, gyda Lina a Meinir Jones wrth yr organ.

Y llywydd anrhydeddus oedd Ken Evans, Ffostrasol a chafwyd ganddo araith yn sôn am ei gysylltiad â’r capel ar hyd y blynyddoedd. Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi.

Dewch i Ddarllen

MAE Dewch i Ddarllen wedi gorffen nawr am y tymor, ond bydd yn dychwelyd ar ddydd Mawrth, 8 Ionawr, 1.15yp-2.15yp, yn Llyfrgell Llandysul.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]