THE latest community news from Llandysul

Bore coffi

CYNHELIR bore coffi yng Nghapel Seion ddydd Sadwrn, 22 Mehefin, am 10yb er budd Apêl Madagascar.

Library

STORY session time and crafts on Thursday, 30 May.

Coffee morning

ON Friday, 28 June, a coffee morning will be held at the church hall, from 10am to 11am.

MU

THE trip will be on 1 July: meeting at Rhydlewis square at 1pm; visit the sculpture heaven at Rhydlewis; Llandudoch Abbey with a short service at the church; and a meal at Ferry Inn.

Please contact Beth on 07901 716957.

St Barnabas

A CONCERT will be held on Friday, 21 June at 7pm at the church.

CyD

BYDD y cyfarfod nesaf, sef taith gerdded hanes lleol Pont-Tywel, ar nos Fercher, 19 Mehefin.

Cwrdd am 6yh ym maes parcio Llandysul Paddlers a gorffen tua 7.30yh yn nhafarn Half Moon am fwyd (os ydych eisiau); neu os nad ydych eisiau cerdded, cwrdd â ni yn y Half Moon am 7.30yh am fwyd, neu dim ond diod a chlonc yn Gymraeg!

Cymdeithas Hanes

LOCAL History Society’s next meeting: ‘Early days of WW2 in Ceredigion’ a talk by Helen Palmer, Ceredigion County Archivist, will be on Wednesday, 26 June at 7.15pm at Tysul Hall.

Welcome to all, non-members will be asked to make a donation of £3.

Enquiries: Lesley Parker 07989 127396; Jane Kerr: 01559 363201; [email protected] www.hanesllandysulhistory. co.uk

Eisteddfod Ceredigion

YN Eglwys Llandyfriog ddydd Sul, 23 Mehefin, cynhelir swper am 5yh ac yna canu.

Y llywydd anrhydeddus fydd Gerwyn Morgan, Beulah, arweinydd fydd Carol Davies a’r organydd fydd Marian O’Toole.

Rhaglen yn £10 – elw tuag at Apêl Ward Llandyfriog ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020.

Merched y Wawr

NÔL yn neuadd yr eglwys oedd ein man cyfarfod ym mis Ebrill, ar ôl croesawu’r aelodau, canwyd Cân y Mudiad.

Wedi cael cyfle i drafod y materion a llythyron, croesawyd ein gwestai, sef Catherine Lizabeth o ardal San Clêr.

Gweithio yn ysbyty Glangwili y mae, ond yn ei amser rhydd mae yn creu a gwneud fasinators.

Roedd wedi dod â nifer o fasinators i ddangos ac roedd yn amlwg bod ganddi tipyn o ddawn i greu a gwneud rhain.

Diolchodd Jean iddi am ddangos ei gwaith i ni. Rhoddwyd y raffl gan Carys ar enillydd oedd Ruth. Roedd y te yng ngofal Yvonne, Ann a Rhianon.

Croesawyd Mari Wyn o Gastellnewydd Emlyn i’n plith i gyfarfod mis Mai aeth â ni nôl 50 o flynyddoedd i 1969.

Rhoddod i ni hanes y digwyddiadau yn ei bywyd yn ystod y flwyddyn hon. Diolchwyd iddi gan Wenna am noswaith diddorol a difyr â phawb wedi mwynhau ei chwmni. Marian enillodd y raffl a oedd yn rhoddedig gan Ann Owens. Yna cafwyd cwpaned wedi ei baratoi gan Eirian, Joan a Nesta.

I ddiweddu ein tymor cafwyd taith ddirgel. Bu’r tywydd yn garedig inni a chawsom fwynhau golygfeydd godidog Sir Benfro. Ymwelwyd ag Abergwaun, Melin Tregwynt a Thyddewi cyn cyrraedd y Sporting Chance, Rhosyn Coch ger Hendygwyn-ar-Dâf ar gyfer pryd o fwyd blasus. Cafwyd cyfarfod byr dan lywyddiaeth Megan a dymunodd yn dda i’r aelodau dros yr haf. Rhoddwyd diolch i’r swyddogion am wneud y trefniadau gan Yvonne.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]