THE latest community news from Llandysul
Bore coffi
CYNHALIWYD bore coffi yn neuadd yr eglwys a chodwyd £280 er budd elusen Macmillan. Diolch am eich cefnogaeth.
Eisteddfod Ceredigion 2020
CYNHELIR bore coffi yn y Ffynnon ar ddydd Sadwrn, 12 Hydref, o 10yb - 12yp (apêl ardal Llandysul). Bydd y cyfarfod nesaf ar nos Iau, 7 Tachwedd yn yr ysgol am 7yh.
Capel Mair
HYFRYD oedd cael dathlu’r cynhaeaf yn yr eglwys, gyda llawer wedi troi i mewn i ddiolch ac i wrando ar neges bwrpasol y Parch Wyn Maskell. Diolch i bawb am gefnogi eleni eto.
CyD
CYFARFOD nesaf ar nos Fercher, 16 Hydref; thema: Eich hoff lyfr.
Ar y Radio
BRAF oedd clywed Kees Huysmans yn siarad ar Radio Cymru ac yn rhannu hanes ei fywyd â ni, ar ei ben-blwydd.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]



.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.