THE latest community news from Llandysul.

Church Services

SUNDAY, 26 March: 8am, Llandysul; 11am, family service for Mothering Sunday; 9.30am, Llangynllo.

Gweithdai Helyg

UN diwrnod, 10.30yb hyd at 4.30yp, Pwerdy SA44 4AH: dydd Sul, 26 Mawrth: ‘Garden Supports’; dydd Sadwrn, 29 Ebrill: ‘Willow Sculpture’.Bydd hyfforddiant ac amrywiaeth o helyg ar gael ar eich cyfer er mwyn i chi wneud eich creadigaeth hyfryd i’w drysori. Mae’n hanfodol archebu lle. £40 yr un yn cynnwys deunydd.I archebu lle cysylltwch â Justine neu Alan 01267 202309.

Cymdeithas Hanes

DIWRNOD Agored: dydd Gwener, 24 Mawrth, yng Ngwesty’r Porth o 11yb hyd at 7yh, mynediad am ddim.Dewch i edrych ar gasgliad y Gymdeithas o hen luniau, mapiau, deunyddiau ymchwil, arteffactau, ac ati. Os oes gennych unrhyw hen luniau neu eitemau sydd o ddiddordeb lleol, a fyddech cystal â dod a nhw gyda chi? Gyda’ch caniatâd, gallwn eu sganio ar y dydd a’u hychwanegu at ein casgliad.

Lansiad llyfr

BYDD y llyfr Melinau Ceulan yn cael ei lansio yn Ffatri Wlân Drefach Felindre ar ddydd Sadwrn, 25 Mawrth, am 2yp.

CyD

NOS Iau, 16 Mawrth, am 7.45yh yn yr Half Moon, Pont-Tyweli; hefyd am 8.15yh, bydd ymarfer côr ar gyfer y Brethyn Cartref. Croeso i bawb gymryd rhan neu i wrando. Maent yn bwriadu canu: Ar lan y môr; Sosban fach; Milgi milgi; ac Ar hyd y nos.Noson o glonc a chymdeithasu. Croeso i ddysgwyr o bob safon.