THE latest community news from Llandysul

Church Services

SUNDAY, 29 October - Llandysul: 10.30am, United bilingual communion service; 5pm, Evensong.

Sunday, 5 November - Llandysul: 10.30am, Confirmation service; 5pm, Evensong.

Sunday, 12 November - Llandysul: 10.45am, Remembrance Sunday service.

Pontsian, Aberbanc: 12.20pm, Service.

Pontsian: 2pm, Communion.

Coffee Morning

FRIDAY, 3 November: 10am till 11am Church coffee morning.

Coffee Evening

THURSDAY, 30 November: 7pm, church coffee evening at Tysul hall.

CyD

DEWCH i Ganu nos Iau, 26 Hydref, am 8yh yn Nhafarn yr Half Moon.

Canu caneuon Cymraeg (neu gwrando), cymdeithasu a chael hwyl!

Croeso mawr i bawb ac mae’n rhad ac am ddim.

Clwb Hanes

ON Wednesday, 25 October, at 7.15pm in Neuadd Tysul hall, local film enthusiast Ivor Thomas will be showing ‘Valley of Song’; a comedy, which was filmed in the Brechfa area.

This change to our programme means that the talk by Jemma Bezant ‘Mysteries at a Medieval Nunnery’ will now take place on Wednesday, 29 November.

Gwyl Cerdd Dant

BYDD Gwyl Cerdd Dant Cymru yn cyrraedd carreg filltir bwysig pan ddaw i Landysul a’r Fro eleni, bydd yn 70 oed.

Cynhelir yr Wyl ar safle newydd Ysgol Bro Teifi, ar 11 Tachwedd.

Sefydlwyd Pwyllgor Gwaith Llandysul a’r Fro o dan gadeiryddiaeth y Cyng Keith Evans ynghyd â nifer o is-bwyllgorau. Gosodwyd nod ariannol o £40,000 i’r ardal.

Bu’r aelodau yn brysur ers bron i ddwy flynedd yn trefnu gweithgareddau i godi arian a chreu rhaglen destunau.

Cafwyd cefnogaeth ariannol sylweddol gan lu o noddwyr hael a chynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau amrywiol, gan gynnwys Cyngerdd Cyhoeddi a chyngerdd gan ddisgyblion cynradd y cylch.

Erbyn hyn braf yw nodi bod y nod ariannol wedi ei gyrraedd.

Rhan fawr o’r targed ariannol yw’r gwobrau hael a niferus a roddir i’r enillwyr.

Mawr yw diolch y pwyllgor i’r holl garedigion am eu cyfraniadau hael.

Bydd enwau’r cyfranwyr yn ymddangos yn Rhaglen y Dydd.

Yn ogystal â’r gwobrau ariannol, rhoddir tlws hardd i’r holl enillwyr.

Crëwyd y tlws sy wedi ei lunio ar ffurf logo’r wyl, gan athro dylunio a thechnoleg Ysgol Bro Teifi, sef Andy Walters.

Dyluniwyd logo Gwyl Cerdd Dant Llandysul a’r Fro gan Dr Rhys Bevan-Jones o Gaerdydd.

Magwyd Rhys yn yr ardal, yn fab i Wenna Bevan-Jones a’r diweddar Dr Huw Bevan-Jones, Pantycrauddyn a mynychodd Ysgol Gynradd Tregroes ac Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi.

Dyma gyfle i’r ardal i agor ei breichiau led y pen i groesawu Cymru gyfan i’r fro hyfryd hon.

Bydd Sesiwn y Prynhawn i ddechrau am 12 (canol dydd), Sesiwn yr Hwyr i ddechrau am 6yh.

Digon o le parcio a lluniaeth ar gael drwy’r dydd.

Cofiwch ddod!

Cyfarfod Cerdd Dant

BYDD y cyfarfod nesaf ar nos Fercher, 25 Hydref, am 7.30yh yn Ysgol Bro Teifi.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]