THE latest community news from Llandysul

Cytun

MAE’R aelodau wedi bod yn brysur yn ymarfer ar gyfer y Plygain fydd ar 20 Rhagfyr yn yr eglwys.

Bydd yr ymarfer diwethaf ar y nos Fercher cyn y gwasanaeth.

Santa Run

THE run was organised by Calon Tysul, when many Santas participated in the 5k run around Llandysul and despite the snow, they all completed the run and finished at the Half Moon.

Gwyl Cerdd Dant

AR nos Fawrth, 5 Rhagfyr, da oedd cael bod ynghyd i ddathlu llwyddiant yr wyl yn Llandysul eleni a chael swper hyfryd yn y Porth dros sgwrs a chymdeithasu da.

Coffee Morning

THE Church Christmas coffee morning will be held on Friday, 29 December, from 10am till 11am in the Church Hall.

Proceeds towards Alzheimer’s.

Gwyl Calan Hen

BYDD yr wyl hynafol yma ar ddydd Sadwrn, 13 Ionawr, i ddechrau am 10yb.

Dewch i gefnogi ac i fwynhau’r Hen Galan mewn gwasanaeth grefyddol gyda 11 o eglwysi yn cymryd rhan.

Carmel

OHERWYDD y tywydd gwael, bu rhaid gohirio y canu ar nos Sul, 10 Rhagfyr.

Gwasanaeth Henllan

YN ôl yr arfer, ar y Llun cyntaf o Ragfyr fe gafwyd gwasanaeth yn y cartref, a da oedd cael aelodau Merched y Wawr Llandysul yn ymuno i mewn, i ganu carolau â phawb yn mwyhnau.

Roedd hefyd yn braf i gael dathlu ym mharti penblwydd un o’r trigolion oedd yn 96 mlwydd oed a da oedd gweld y gacen hyfryd.

Capel Mair Church

THE Christmas Service will be held on Christmas Eve, Sunday, 24 December, at 8pm at the church, please support.

Eglwys Penboyr

COFIWCH am y Gwasanaeth o’r Plygain ar fore Nadolig am 6yb yn Neuadd yr Eglwys.

Croeso cynnes i chi i ymuno yn y dathlu ar fore’r Nadolig.

St James Church

CHRISTMAS Day Service will be at 8am on Christmas morning.

Cylch Cinio

AR nos Lun cynta’r mis,

(4 Rhagfyr), yn ôl yr arfer, cyfarfu aelodau’r Cylch Cinio yng Ngwesty’r Porth ar gyfer y ginio Nadolig.

Croesawyd pawb gan y cadeirydd, Keith Evans a thraddodwyd y gras gan Huw Thomas.

Ar ddechrau’r cyfarfod, cyfeiriwyd at anhwylder dau aelod ffyddlon iawn o’r Cylch ers y cychwyn cyntaf, sef Arwyn Pierce sydd ar hyn o bryd yng Nghartref Glyn-Nest, Castell Newydd Emlyn a Ieuan Jones sydd yng Nghartref Allt-y-Mynydd, Llanybyther.

Dymunwyd adferiad buan iddynt, gyda’r cadeirdd yn gofyn i aelodau alw heibio i ymweld â hwy dros yr wythnosau nesaf.

Diolchwyd hefyd i’r holl aelodau a fu’n cynorthwyo yn ystod yr Wyl Gerdd Dant ym mis Tachwedd.

Y gwr gwadd oedd y cyn Dditectif-Ringyll Gareth Rees o Aberteifi a chawsom noson hynod o ddiddorol yn ei gwmni wrth iddo sôn am nifer o ddigwyddiadau a heriau amrywiol a wynebwyd ganddo yn ystod ei yrfa o 30 mlynedd gyda’r heddlu.

Diolchwyd iddo gan David Thorne.

Enillydd y raffl, rhoddedig gan John Gwesyn Evans, oedd Martin Griffiths.

Bydd y cyfarfod nesaf yn y flwyddyn newydd, ar nos Lun, 1 Ionawr, pryd cynhelir y cyfarfod blynyddol.

Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, edrychwn ymlaen at y cwis arferol o dan arweiniad Aled Jones, is-gadeirydd y Cylch.

Clwb Croeso

FOR the December meeting, the members met at Tysul Church for the Christmas service, which was held on Tuesday, 12 December, and was led by the Rev Beth Davies.

Various members of Clwb Croeso also took part, which added to the enjoyment of the afternoon.

Once the service had concluded, refreshments were served at the Porth Hotel.

With many thanks to Gwyneth Davies, our organist and those of our members who took part, not forgetting Rev Davies for an excellent service.

The collection will be donated to Children’s Welsh Air Ambulance.

The next meeting will be on Tuesday, 13 February, at the Porth Hotel.

Merry Christmas and a Happy and Healthy New Year.

Church Services

WEDNESDAY, 20 December – Llandysul: 7pm, Plygain.

Sunday, 24 December – Llandysul: 8am, Communion; 11am, Communion; 4pm, Crib Service; 11pm, Christmas Service.

Welcome to all.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]