THE latest community news from Llanfarian

Merched y Wawr

Dros dymor y Nadolig aeth Merched y Wawr i ymweld â Chartref Tregerddan, Bow Street.

Crëwyd awyrgylch hapus a bendithiol yn eu cwmni o dan arweiniad Mair Griffiths. Pleser i’r aelodau fu cael cyfle i ganu’r hen garolau gyda’u gilydd ac i ddymuno Nadolig Llawen i bob un yn y cartref .

Cwpaned cyn ymadael a gwahoddiad i ddod yn ôl eto yn fuan.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]