THE latest community news from Llangwyryfon

Merched y Wawr

DECHREUWYD y tymor newydd gydag ymweliad â’r Llyfrgell Genedlaethol.

Cafwyd groeso a chyflwyniad gan Cyril Evans cyn mynd i wylio ffilm ynglyn â’r Llyfrgell yn y Drwm.

Roedd hon yn medru dangos i ni nifer o fannau nad oedd amser na chyfle i ni eu gweld.

Cafwyd gwybodaeth gan Cyril am adnoddau eang a chyfleusterau’r lle ac annogaeth i ymweld yn gyson ac ymuno â Chyfeillion y Llyfrgell.

Ond y diddordeb pennaf i’r gangen ar y noson oedd gweld yr arddangosfa o baneli dathlu 50 Merched y Wawr cyn iddynt gael eu symud oddi yno.

Er clywed amdanynt cyn hyn roedd eu gweld yn syfrdanol.

Mae’n anodd dychmygu faint o oriau o gynllunio ac o lafur cariad aeth i mewn i bob un.

Maent yn drysorau cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau o ferched y dyfodol.

Diolchwyd i staff y Mudiad am drefnu a diolchodd Mair Jones i Cyril hefyd am yr holl wybodaeth a drosglwyddodd ac am dywys y merched ar hyd y coridorau cymhleth heb golli’r un ohonyn nhw.

Ymlaen wedyn i Llety Parc am bryd o fwyd.

Tra’n aros, tynnwyd sylw at ddigwyddiadau’r haf, ers y cyfarfod diwethaf.

Cydymdeimlwyd ag Eirwen Williams, Ty Newydd, ar golli ei mam.

Llongyfarchwyd Aranwen Jarman, Nantcwtta, ar ennill ar un o’r posau yn Y Wawr, unwaith eto.

Llongyfarchwyd dwy famgu, sef Ann Ellis, Graigwen, sy’n famgu am y tro cyntaf, i ferch fach Angharad a Ben sef Greta Ann, ac i Wendy Lloyd, Facwn, sy’n hen gyfarwydd â’r swydd, sy’n famgu i ferch fach Gwawr a Joe o’r enw Sylvie Martha.

Roedd trefniadau’r noson yng ngofal Mair Jones a Susan Jones, a hwy hefyd gyfrannodd y raffl.

Fe’i enillwyd gan Jayne Jones.

Bydd y cyfarfod nesaf, a drefnir gan Carol Tandy a Beryl Jones, ar 9 Hydref pan fydd Myfanwy Lloyd, Pennant, yn sôn am ei chasgliad o esgidiau bychanig.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]