THE latest community news from Nefyn

Amgueddfa Morwrol Ll?n

BORE Sadwrn, 29 Mehefin, am 11yb cynhelir ‘Sesiwn Sgwrsio’ i ddysgwyr Cymraeg.

Mae rhestr gweithgareddau’r haf newydd cael eu cyhoeddi ac mae digon o bethau ar y gweill i diddori pob oedran.

I’r oedolion mae yna gyfres o sgyrsiau’r haf, bydd yn cychwyn am 7.30yh.

Pris mynediad yn £3, os am fwy o wybodaeth ffoniwch 01758 721313.

Nos Iau (8/8) Sgwrs gan Peter Day o Moelfre - Shipwrecked!

Nos Iau (15/8) Sgwrs gan Gareth Haulfryn Williams – Masnachu Morwrol yn Ll?n yn y 17eg ganrif.

Nos Iau (22/8) Sgwrs gan Andrew Jones - Pilgrimage to Bardsey.

Nos Iau (29/8) Sgwrs gan John Dilwyn Williams – Y ffordd Dyrpeg i Borthdinllaen.

Dyma weithgareddau i blant pedwar i 12 oed.

Yn digwydd ar fore Iau o 10.30yb i 12.30yp. Cost yn £3.50 yn cynnwys diod a bisged. Rhieni i aros gyda’i plentyn.

Ffoniwch 01758 721313 i archebu lle.

Iau (25/7) Bore o hwyl a sbri gyda Gwenni Gwichiaid, Mari Gwilym.

Iau (01/8) Ditectifs Natur gyda Lea.

Iau (08/8) Sgwrs a glanhau traeth Nefyn gyda swyddog o Pen Ll?n a’r Sarnau.

Iau (15/8) Bore crefft – peintio cerrig a gwneud cychod bach gyda Margaret Taylor Hill.

Iau (22/8) Sgwrs gan un o criw Bad Achub Porthdinllaen.

Iau (29/8) Bore crefft a stori gyda Mared Llywelyn.

Mae’r amgueddfa ar agor ddydd Mercher i ddydd Sul 10.30yb tan 4yp.

Os oes gan rhywun diddordeb mewn gwirfoddoli yn yr amgueddfa cofiwch gysylltu â Jina neu Val am sgwrs pellach.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]