THE latest community news from Pontrhydfendigaid
Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 23 Rhagfyr: 10yb, Plant yr Ysgol Sul yn cyflwyno ‘Tawel Nos’.
Gwneir casgliad tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.
Croesawir pawb i Neuadd Pantyfedwen am baned a mins peis ar ôl yr oedfa, a bydd Sion Corn yn talu ymweliad.
Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 23 Rhagfyr: 2yp, Oedfa Nadolig yr Ieuenctid.
Dydd Mawrth, 25 Rhagfyr: 9.30yb, Gwasanaeth Bore’r Nadolig.
Merched y Wawr
CYNHALIODD Merched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch gyfarfod ar nos Lun, 3 Rhagfyr yn Neuadd Pantyfedwen.
Roedd y noson yng ngofal Ann Williams, Jên Ebenezer ac Ann Arch.
Diolchodd y llywydd, Jasmine Wilson, i’r tair am drefnu’r noson, a chyflwynodd y wraig wadd, sef Gwenan Arch, merch Ann.
Dymunodd yn dda i Gwenan ar ei dyweddïad ac ar ei swydd newydd. Bydd Gwenan yn dechrau ar ei swydd gyda’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddechrau’r flwyddyn.
Croesawyd hefyd Joan Davies yn ôl wedi ei llawdriniaeth.
Cafwyd awr neu ddwy ddiwyd iawn yn creu addurniadau Nadolig o dan lygaid craff Gwenan, ac aeth pawb adre’n hapus gyda’u haddurniadau ar gyfer y Goeden Nadolig.
Mwynhawyd lluniaeth wedi ei baratoi gan drefnyddion y noson i ddiweddu’r noson, ac enillwyd gwobrau’r raffl gan Jên Ebenezer, Gwenda Hughes ac Ann Arch a thalwyd y diolchiadau gan Jên.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.