THE latest community news from Pontrhydfendigaid.
Merched y Wawr
CYNHALIWYD cyfarfod mis Ebrill yn Ystafell Chwaraeon Neuadd Pantyfedwen. Croesawyd pawb gan y llywydd, Neli Jones, a chafwyd noson ddifyr iawn o ‘Hawl i Holi’ gyda Charles Arch, Lyn Ebenezer, Ian Huws a Selwyn Jones ar y panel, a Mari Arch yn cadeirio. Gofynnwyd amrywiaeth o gwestiynau gan yr aelodau, a’r ymateb gan y panel weithiau o ddifrif ac weithiau gyda llawer o hiwmor. Talwyd y diolchiadau gan Jasmine Wilson. Paratowyd y te a’r lluniaeth ysgafn gan drefnwyr y noson, Mari Arch a Neli Jones. Enillwyd gwobrau’r raffl gan Lyn Ebenezer, Charles Arch a Joan Davies. Bydd y noson olaf am y tymor yn cael ei chynnal ar nos Lun, 16 Mai, pryd y bydd swyddogion newydd yn cael eu penodi, gyda gêm neu ddwy o fingo yn dilyn. Hefyd bydd y Trip Dirgel blynyddol, sydd yng ngofal Jên Ebenezer, yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn, 2 Medi.Dewiswyd dwy aelod o Ferched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch i gyrchu’r bardd buddugol i’r llwyfan ar ddydd Llun Eisteddfodau Teulu James yn y pafiliwn, a’r enwau a ddaeth ‘allan o’r het’ oedd Joan Davies a Jasmine Wilson; pob dymuniad da iddynt ar 1 Mai.
Carnival
THE Carnival Disco was held at Pantyfedwen Hall on Friday, 7 April. During the evening the retiring carnival queen, Cari Gwanwyn Davies drew the names of this year’s queen and attendants, which were: Catrin Davies (queen), Seren Fflur Mayes, Lleucu Jones, Gethin Evans and Ianto Rhys Wilcocks (attendants). The carnival will be held in Bont Pavilion on Saturday, 1 July, and the president and judge for the day will be Trystan ab Ifan, Cardiff (Manyrafon).
Cyngerdd Merêd
BYDD Cyngerdd Merêd a drefnir gan Gymdeithas William Salesbury mewn cyd-weithrediad â phwyllgor Eisteddfodau Teulu James Pantyf-edwen yn cael ei gynnal am yr ail flwyddyn ym Mhafiliwn y Bont ar nos Sul yr eisteddfodau, sef nos Sul, 30 Ebrill am 7.30yh. Mae’r tocynnau ar werth am £10, a gellir eu cael o Siop y Bont, Pontrhydfendigaid, Selwyn a Neli Jones, Glanrhyd, Siop Anrhegaron yn Nhregaron, Siop y Pethe neu Siop Inc, Aberystwyth. Bydd tocynnau ar werth wrth y drws ar y noson hefyd.
Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 16 Ebrill (Sul y Pasg): 10yb, Oedfa’r Pasg yng nghwmni plant yr Ysgol Sul a’r Parch Lewis Wyn Daniel. Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 16 Ebrill: 2yp, Parch Wyn Morris. Croeso i bawb.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.