THE latest community news from Pwllheli.
Ala Road
MORNING worship at the English Presbyterian Church this Sunday, 30 April, will be led by Rev Malcolm Daley. The service starts at 11.15am and a warm welcome is extended to all.
Oedfaon
CAPEL Seion: 10yb, y Parch Peter Rodgers, Cricieth. Capel Penlan: 2yp, Oedfa yn Nhrefor (trefniant cylch y Gymanfa).
St Peter’s Church
SUNDAY: 10.30am, Holy Eucharist/Offeren Sanctaidd. Monday: 9.30am, Celtic Morning/Prayer and Meditation. Tuesday: 10.30am, Holy Eucharist/Offeren Sanctaidd. Friday: 3.30pm, Meditation, Blessed Sacrament and Benediction/Myfyrdod, Sacramet Bendigaid a Bendith. Saturday: 10am, Holy Eucharist/Offeren Sanctaidd. Tuesdays and Fridays: 2pm to 3pm, foodbank.
Capel y Drindod
DYDD Iau, 27 Ebrill: 10yb, Te a Thost yn Festri Berea, Efailnewydd. Dydd Gwener, 28 Ebrill: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol yn Festri’r Ala. Dydd Sul, 30 Ebrill: 10yb a 5yh, Oedfaon yng ngofal y Parch Glenys Jones. Ysgolion Sul fel arfer. Dydd Mercher, 3 Mai: 7yh, Clwb Ieuenctid.
Merched y Wawr
JAM a tonic sol-ffa. Dyna oedd yr arlwy ar gyfer y cangen yn ddiweddar.
Mae’r mudiad yn 50 oed eleni a buom yn ymweld â busnes lleol sydd hefyd wedi cyrraedd yr un oed â ni sef Y Ffatri Jam yn Y Ffôr. Mae eu cynnyrch yn cael ei farchnata dan yr enw ‘Welsh Lady’, gyda llun ohoni ar bob label ac erbyn hyn mae hi wedi cael diwyg mwy modern.
Cawsom groeso cynnes iawn gan Carol, Myfanwy a Sian a phanad a danteithion blasus iawn i’w bwyta – pob un ohonom wedi anghofio’r deiet!Yna daeth cyfle i brynu a bu hen wario â phawb yn gadael yn drwm-lwythog o jamiau, shytnis a sawsiau o bob math.
Daeth Dewi Wyn a’i gamera yno i dynnu llun fydd yn siwr o fod yn record diddorol ar gyfer y Llyfr Lloffion ryda ni’n ei wneud eleni i ddathlu’r hanner cant.
Trystan Lewis o Ddeganwy oedd y gwr gwadd yng nghyfarfod mis Ebrill a dyma ddyn eithriadol o brysur. Mae’n arweinydd ar dri chôr, yn dysgu yn Ysgol Gerdd William Mathias ac yn cadw siop lyfrau yn Llandudno yn ogystal â bod yn organydd ac yn arweinydd Cymanfaoedd Canu.
Atgoffodd ni mor ffodus ydym fod gennym ddwy iaith yng Nghymru, ond fod gennym ddwy iaith gerddorol hefyd, sef hen-nodiant a’r sol-ffa ac aeth ymlaen i sôn am ein dyled fel cenedl i bedwarawd o bobl, sef Sera Glover o Norwich, John Curwen o Swydd Efrog, Eleazar Roberts a anwyd ym Mhwllheli ond a symudodd i Lerpwl, a Ieuan Gwyllt yn Llanberis.
Dyma’r Gwroniaid a gyflwynodd y tonic sol-ffa i’r werin bobl yng Nghymru a llwyddo i sicrhau fod canu, a hwnnw’n ganu pedwar llair, ardderchog yma. Roedd y rhan fwyaf o’r gynulleidfa wedi dysgu solffa yn yr Ysgol Sul.
Parish masses
ST Joseph’s, Pwllheli: Sunday, 11.30am; Saturday, 6.30pm. Church of the Most Holy Redeemer, Porthmadog: Sunday, 9am.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.