THE latest community news from Sarn
Sefydliad y Merched
YN ôl yr arfer, i gloi gweithgareddau tymor yr haf cynhaliwyd taith gerdded ar nos Lun, 3 Gorffennaf. Llanbedrog oedd dewis y lleoliad eleni. Wedi cyfarfod ym maes parcio tafarn Glyn y Weddw, ymlwybrodd y criw o tua 15 i fyny mynydd Tir y Cwmwd, heibio Bol Mynydd ac ymlaen at y copa. Roedd yn dipyn o daith, ond daliodd y tywydd yn braf a heb law ac roedd y golygfeydd dros Fae Ceredigion ar ôl cyrraedd y brig yn werth yr ymdrech.
Ar ôl dychwelyd at y ceir aed ymlaen i Bwllheli am bryd o fwyd i goroni’r noson.
Bydd tymor yr Hydref yn dechrau ar nos Lun, 4 Medi, gyda helfa drysor.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.