THE latest community news from Talgarreg.
Capel y Fadfa
CYNHALIWYD oedfa gymun y Sul diwethaf am 10.30yb yng nghwmni ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas. Wrth yr organ oedd Enfys Llwyd.
Braf oedd gweld y capel wedi’i baentio â’r festri’n cael ei haddurno ar hyn o bryd.
Mae yna gais i’r aelodau ddod at ei gilydd nos Lun nesaf i dorri porfa’r fynwent ac i gymhennu o amgylch y capel. Os fydd y tywydd yn wael, pawb i ddod ar y noson sych gyntaf wedyn.
Canu Gwlad
CAFWYD noson arbennig yn Nhafarn Glanyrafon nos Sadwrn, gyda Clive Edwards yn diddanu. Tudur Wyn fydd yno’n canu ar nos Sadwrn, 24 Medi.
Miri Medi
ROEDD nos Sadwrn yn noson llawn hwyl i’r teulu. Braf oedd gweld y neuadd yn llawn, gyda’r elw er budd cynnal a chadw’r adeilad.
Cofio’r Cant
I GAPEL y Bryn, Cwrtnewydd aeth pawb nos Sul ddiwethaf i wrando ar y Parch Cen Llwyd a ffrindiau yn cyflwyno detholiad allan o Ddyddiadur Tramp, sef detholiad o ddyddiadur blwyddyn olaf bywyd y Parch D Jacob Davies.
Prynhawn Sul nesaf am 1.30yp bydd y cyn-archdderwydd T James Jones yn Cofio Jacob yng Nghapel y Cwm, Cwmsychbant.
Bydd casgliad tuag at Elusen Parkinsons ac Elusen yr Arennau.
Diffibriliwr
YN DDIWEDDAR cyflwynodd Megan Jones (Gwylfa gynt) ddiffibriliwr i bentref Talgarreg er cof am ei rhieni. Y Cyng Gareth Lloyd a dderbyniodd yr offer ar ran yr ardalwyr.
Cafwyd hyfforddiant ar y noson ar sut i ddefnyddio’r peiriant hyn mewn argyfwng gan Glan Davies, gwirfoddolwr gyda Chalonnau Cymru.
Lleolir yr offer ar y bwthyn bach ger y ciosg yn y pentref.
Sioe hen beiriannau
DDYDD Sadwrn nesaf cynhelir yr uchod ynghyd â Sioe Gynnyrch ar gae Coed Fardre, Bwlchyfadfa.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.