THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

BYDD yr oedfa ddydd Sul am 3yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas rhannu’r cymun.

Neuadd Goffa

NOS Sadwrn cynhaliwyd Miri Medi gan Bwyllgor y Neuadd, yn y neuadd. Cafwyd ras beli ar ddechrau’r noson a’r enillwyr oedd: 1 Johnny Jones, Brynhyfryd; 2 Cerian Jones, Maesycoed; 3 Siân Siencyn, Sycharth. Yn dilyn cafwyd pryd dau gwrs ac adloniant gan Mari Mathias. Noson hwylus iawn a gododd arian tuag at goffrau’r neuadd.

Os am logi’r neuadd ar gyfer unrhyw ddigwyddiad, cysylltwch gydag aelodau’r pwyllgor neu e-bostiwch [email protected]

Hefyd cysylltwch os hoffech gefnogi’r neuadd a cheisio ennill gwobrau drwy’r flwyddyn wrth ymuno â’r Clwb 100, sy’n fargen am £6 y flwyddyn. Bydd y clwb yn dechrau’r flwyddyn newydd ddiwedd Medi, felly cysylltwch â’r aelodau am ffurflen ymaelodi mor fuan â phosib.

Gwyl Ysgolion Sul

ER gwaethaf y tywydd hydrefol ddydd Sul, fe gafwyd taith arbennig i Sain Ffagan ac i Gapel Undodaidd Penrhiw gan lawer o aelodau capeli ardal y Smotyn Du. Y Parch Wyn Thomas oedd yn gwasanaethu mewn Oedfa Ddiolchgarwch, gyda chymorth plant y gwahanol Ysgolion Sul yn ei gynorthwyo. Yn cefnogi’r canu ar yr allweddellau oedd y Parch Alun Wyn Dafis.

Hyfryd oedd gweld y capel bach wedi cael ei addurno mor hardd gyda chynnyrch gardd a chaeau a blodau’r maes ar gyfer yr oedfa ragorol hon. Diolchir i bawb a wnaeth y trefniadau ac i bawb a gymrodd ran. Cafwyd cyfle hefyd i edrych o gwmpas Sain Ffagan ac yn arbennig yr Wyl Fwyd oedd yno.

Canu Gwlad

ROEDD Tudur Wyn yn nôl yn diddanu yng Ngwesty Glanyrafon nos Sadwrn, ar wahoddiad Hefin a Megan. Dyma noson arall yn llawn hwyl a sbri.

Bydd y canu nesaf ar nos Sadwrn, 23 Medi gyda’r ddeuawd Daf a Lisa yn diddanu.

Sioe Hen Beiriannau

UNWAITH eto eleni cynhelir Sioe Hen Beiriannau gweithiol a chynnyrch ar gae Coed Fardre, Bwlchyfadfa, trwy garedigrwydd Iwan Evans, ddydd Sadwrn, i ddechrau am 9yb.

Thema’r dydd fydd certi a hen whilberi. Mae rhywbeth at ddant pawb yng nghystadlaethau’r dydd, gan gynnwys lluniaeth a bar. Bydd yno hefyd arddangosfa o hen geir a pheiriannau.

Cymanfa Fodern

MAE Adran y Pentre’ yn cynnal Cymanfa Ganu Fodern yn Eglwys Dewi Sant ar nos Sul, 1 Hydref am 7.30yh. Yr arweinydd fydd Elin Dafydd a’r artistiaid fydd aelodau a chyn-aelodau Adran Talgarreg, CFfI Pontsian a CFfI Caerwedros. Y llywydd fydd Ffion Hughes (Bodwenog gynt).

Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Uned Cemotherapi, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]