THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

BYDD yr oedfa nesaf ar ddydd Sul, 8 Hydref, am 1.30yp, gyda’r Parch Eirian Wyn Lewis yn ein harwain mewn Oedfa Ddiolchgarwch.

Ddydd Sul nesaf cynhelir Cyrddau Blynyddol Cymdeithas Undodaidd ardal y Smotyn Du yng Nghapel Caeronnen am 1.30yp, felly gobeithio cael presenoldeb aelodau’r gwahanol gapeli yn yr oedfa a fydd dan ofal y Parch Cen Llwyd. Y gwr gwadd fydd Ben Lake; cyfle iddo rannu ei brofiadau o’r misoedd cyntaf yn ei swydd fel Aelod Seneddol Ceredigion, ei weledigaeth a’i fwriadau a bydd cyfle i’w holi hefyd.

Hefyd bydd Glan Davies yn bresennol ar ran yr elusen Calonnau Cymru i dderbyn arian y daith gerdded a gynhaliwyd nôl ym mis Gorffennaf

Neuadd Goffa

COFIWCH gysylltu â Rhian Griffiths os hoffech gefnogi’r neuadd a cheisio ennill gwobrau drwy’r flwyddyn wrth ymuno â Chlwb 100 y neuadd, sy’n fargen am £6 y flwyddyn.

Bydd blwyddyn newydd y clwb yn dechrau ddiwedd Medi, felly cysylltwch am eich ffurflen ymaelodi.

Canu Gwlad

NOS Sadwrn roedd y ddeuawd Daf a Lisa yn diddanu unwaith eto yng Ngwesty Glanyrafon, ar wahoddiad Hefin a Megan.

Nos Sadwrn nesaf y canwr a’r digrifwr Clive Edwards fydd yno’n diddanu, noson arall arbennig iawn fydd hon.

Sioe Hen Beiriannau

MAE’R Sioe Hen Beiriannau gweithiol a chynnyrch o bob math ar gae Coed Fardre, Bwlchyfadfa, trwy garedigrwydd Iwan Evans, wedi cael ei ail-drefnu ar gyfer dydd Sadwrn, i ddechrau am 9yb. Thema’r dydd fydd certi a hen whilberi. Mae rhywbeth at ddant pawb yng nghystadlaethau’r dydd, gan gynnwys lluniaeth a bar. Bydd yno hefyd arddangosfa o hen geir a pheiriannau, felly ewch i fwynhau diwrnod cyfan o ddigwyddiadau a chyfle i gwrdd â hen ffrindiau a chymdeithasu.

Cymanfa Fodern

MAE Adran y Pentre’ yn cynnal Cymanfa Ganu Fodern yn Eglwys Dewi Sant, nos Sul am 7.30yh.

Yr arweinydd fydd Elin Dafydd a’r artistiaid fydd aelodau a chyn-aelodau Adran Talgarreg, CFfI Pontsian a CFfI Caerwedros. Y llywydd fydd Ffion Hughes (Bodwenog gynt).

Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Uned Cemotherapi, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, dewch i gefnogi.

Capel Pisgah

CYNHELIR oedfa ddiolchgarwch Capel Pisgah ar nos Wener, 13 Hydref, am 7yh. Y pregethwr gwadd fydd y Parch Guto Llywelyn.

Bore Coffi

BYDD bore coffi yn cael ei gynnal yn y Neuadd Goffa, fore Gwener, rhwng 10yb-12yp, gyda’r holl yn mynd tuag at Ofal Cancr Macmillan.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]