THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
CYNHALIWYD oedfa undebol ar fore Sul olaf y flwyddyn yng nghwmni ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas.
Cafwyd neges amserol a dymunodd yn dda i Tania Rees ar dderbyn gradd meistri.
Wrth yr organ oedd Enfys Llwyd.
Dymunwyd yn dda i’r Parch Wyn Thomas ar ei briodas â Matthew, drwy gynnig llwnc testun i’r ddau, wrth i bawb gael gwydred o sieri a mins pei.
Bydd yr oedfa ddydd Sul am 3yp.
Cylch Meithrin a Ti a Fi
AR ddechrau Rhagfyr cynhaliwyd noson caws a gwin ac ocsiwn yn Nhafarn Glanyrafon.
Cafwyd noson yn llawn hwyl, gan godi £2,202.50 tuag at y Cylch Meithrin a Ti a Fi.
Yn Nhafarn Glanyrafon ar 8 Rhagfyr, cyflwynodd Hefin a Megan arian i’r gwahanol elusennau, a rhoddwyd £500 i’r Cylch Meithrin a Ti a Fi.
Diolch am eu haelioni.
Cafwyd croeso cynnes gyda Hefin a Megan yn Nhafarn Glanyrafon ar 15 Rhagfyr pan gynhaliwyd y parti Nadolig a daeth Siôn Corn i ymweld â’r plant.
Ar 20 Rhagfyr aethpwyd i weld Siôn Corn yn Rheilffordd Henllan.
Mwynhaodd pawb y daith ar y trên a chafodd y plant anrheg gan Siôn Corn.
Ar ddiwedd y tymor cynhaliwyd cyngerdd Nadolig y Cylch Meithrin yn Neuadd Talgarreg a braf oedd gweld y plant ar y llwyfan.
Diolch i Miss Mair, Miss Carol a Miss Wendy am eu gwaith. Cafwyd te parti i ddilyn.
Enillwyr Clwb 100, Tachwedd: 1, Jac Rees, Cwrtnewydd; 2, Gwen Thomas, Maestir; 3, Rhun a Non, Talgarreg. Rhagfyr: 1, Millie, Jayden a Caleb, Talgarreg; 2, Teulu Evans, Gorsgoch; 3, Osian a Dyfan, Talgarreg.
Oedfa Nadolig
CYNHALIWYD Oedfa Nadolig cymunedol yn y Neuadd Goffa ar fore’r Nadolig.
Daeth tyrfa dda ynghyd a gwnaethpwyd casgliad o £126 tuag at Cymorth Gristnogol.
Gwasanaeth Carolau
CAFWYD gwasanaeth carolau am 9yh Noswyl y Nadolig yn Hen Gapel, Llwynrhydowen.
Hyfryd oedd gweld cymaint wedi troi allan i’r noson arbennig hon, digwyddiad sy’n tyfu yn flynyddol.
Cwn Hela
AR fore Calan, daeth yr helfa ar ymweliad â’r pentref ar wahoddiad Hefin a Megan, Glanyrafon. Braf oedd gweld tyrfa luosog wedi dod ynghyd i gadw’r hen draddodiad hyn i fynd.
Halen y Ddaear
DAETH Alwyn Humphreys o raglen Prynhawn Da ar ymweliad ag Ysgol Talgarreg, i anrhegu Meinir Jones a fu’n dysgu yn yr Ysgol Gynradd leol ers dros 34 o flynyddoedd.
Hyfryd oedd gweld cynulleidfa luosog wedi dod ynghyd a dymunir yn dda i Mrs Jones ar ei hymddeoliad.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.