THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

CYNHALIWYD oedfa gynta’r flwyddyn yn y capel brynhawn Sul diwethaf.

Yn gwasanaethu roedd ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas a chafwyd neges amserol a phwrpasol ganddo.

Estynnodd gydymdeimlad dwys gyda theulu Neville Jones a fu farw’r wythnos ddiwethaf.

Cyhoeddodd hefyd fod y Noson Garolau wedi codi dros £400 tuag at goffrau’r capel.

Bydd yr oedfa nesaf am 1.30yp ar ddydd Sul, 31 Ionawr, pan fydd ein gweinidog yn rhannu’r cymun am y tro cyntaf eleni.

Halen y Ddaear

AR brynhawn braf yn ddiweddar fe ddaeth Alwyn Humphreys o raglen Prynhawn Da ar ymweliad ag Ysgol Talgarreg, i anrhegu Meinir Jones gyda phlât Halen y Ddaear a thusw o flodau hardd. Roedd Mrs Jones yn derbyn y fath glod am iddi fod yn dysgu yn yr ysgol gynradd leol ers dros 34 o flynyddoedd.

Gwelwyd y brifathrawes Mair Potter, y cynghorydd lleol Gareth Lloyd a Cennydd Jones sef mab Mrs Jones yn siarad ar y rhaglen ac wrth gwrs roedd y plant yn canu geiriau pwrpasol ar ei hymddeoliad.

Hyfryd oedd gweld cynulleidfa luosog wedi dod ynghyd i’r ysgol ar y diwrnod pwysig hwn. Dymuniadau da i Mrs Jones ar ei hymddeoliad.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]