THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
OHERWYDD y tywydd gaeafol ni chynhaliwyd y gwasanaeth ddydd Sul diwethaf.
Bydd yr oedfa nesaf ddydd Sul, 18 Mawrth, am 1.30yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gweini’r cymun.
Codi arian
DDYDD Sadwrn nesaf cynhelir dau ddigwyddiad i godi sylw ac arian at yr elusen Mind, â’r gwaith da sydd yn cael ei wneud yn lleol i godi ymwybyddiaeth o hyn.
Yn gyntaf, bydd bore coffi yn cael ei gynnal yng Nghapel y Groes am 10yb ac yna am 2yp bydd prynhawn agored yng Nghapel y Bryn.
Cyfle i weld tu ôl i lwyfan yr elusen a dysgu am y gwahanol wasanaethau a gynigir a’r cyfleoedd i wirfoddoli sydd ar gael.
Siawns i’r Undodiaid weithio dros iechyd meddwl gwell i bawb.
Bydd hi yn dda iawn petai aelodau’r enwad yn medru cefnogi’r ddau ddigwyddiad hyn drwy fynychu neu drwy gyfrannu rhoddion ariannol tuag at yr elusen bwysig hon.
Dyddiad newydd
OHERWYDD y tywydd gaeafol bu’n rhaid gohirio’r noson Cawl a Chân yn y Neuadd Goffa nos Wener ddiwethaf.
Y dyddiad nawr fydd nos Sadwrn nesaf am 6.30yh.
Croeso i bawb i ddod i fwynhau noson Gymreig draddodiadol.
Plant yr Ysgol Feithrin a disgyblion yr Ysgol Gynradd fydd yn diddanu.
Mynediad: £5 i oedolion a £1 i blant ysgol.
Olrhain hanes
PRYNHAWN Sadwrn diwethaf roedd yna raglen ddiddorol ar y teledu gydag Andrew Jones, a oedd yn olrhain hanes ei hen fam-gu, Iddewes a ddaeth i Gymru 300 mlynedd yn ôl.
Roedd hanes yn datgelu bod gan y ddynes hon gysylltiadau â fferm Llawrcwrt.
Roedd yr Iddewes yn wraig fonheddig a chyfoethog o’r 18fed ganrif sydd wedi ei chladdu ym mynwent Eglwys Llandysul.
Hyfryd oedd gweld Barbara Davies yn dangos y goeden deuluol mae hi wedi bod yn ei baratoi i Andrew, felly cyfle iddo weld manylion cyndadol iddo o’r gorffennol pell. Rhaglen ddiddorol yn mynd ar drywydd achau gwraig ddifyr iawn.
Capel Pisgah
AR nos Wener, 23 Mawrth, bydd Cwmni Drama Llandudoch nôl yn perfformio ar lwyfan y Neuadd Goffa. Mae’r cwmni hwn yn hen gyfarwydd a bod ar y llwyfan yma.
Cynhelir y noson dan nawdd Capel Pisgah.
Cwis Pasg
NOS Iau, 29 Mawrth, cynhelir Cwis Pasg yn Nhafarn Glanyrafon am 7.30yh; hyd at bedwar aelod mewn tîm, £5 y person. Bydd y tîm buddugol yn ennill £20.
Holl elw’r noson tuag at Elusennau’r Gymdeithas Hen Beiriannau.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.