THE latest community news from Talgarreg
Capel Y Fadfa
BU yn rhaid gohirio’r cwrdd cymundeb a oedd i fod dydd Sul diwethaf am 1.30yp oherwydd y tywydd gaeafol.
Cynhelir yr oedfa nesaf ar ddydd Sul, 1 Ebrill am 3yp.
Codi Arian
YN ddiweddar bu Undodiaid y Smotyn Du yn mwynhau dau ddigwyddiad er mwyn codi ymwybyddiaeth o waith elusen Mind Cymru yng Nghapel y Groes a Chapel y Bryn.
Llwyddwyd i godi £745.40 rhwng y ddau ddigwyddiad ar gyfer elusen sydd mor bwysig.
Cwis Pasg
AR nos Iau, 29 Mawrth, cynhelir Cwis Pasg yn Nhafarn Glanyrafon am 7.30yh.
Holl elw’r noson tuag at Elusennau’r Gymdeithas Hen Beiriannau.
Cylch Meithrin a Ti A Fi
LLWYDDODD y Cylch Meithrin a Ti a Fi ennill gwobr yn ddiweddar a oedd yn cael ei chynnig gan y Mudiad Meithrin i’r Cylch oedd yn codi’r swm mwyaf o arian mewn gweithgaredd neu oedd â’r syniad mwyaf gwreiddiol i godi arian dros adeg y Nadolig.
Yn y noson Caws a Gwin codwyd y swm arbennig o £2,202.50 tuag at waith y Cylch Meithrin a Ti a Fi, a’r wobr i’r Cylch am ddod yn fuddugol trwy godi’r swm mwyaf oedd cael aelodaeth blwyddyn i’r Mudiad Meithrin am ddim.
Da iawn pawb a fu yn cefnogi’r noson neilltuol hyn ac i swyddogion y Cylch am drefnu
Enillwyr y Clwb Cant am fis Ionawr oedd Jimmy a Molly Higgins, Guto a Macsen a Daniel a Rebecca Rees.
Noson o Ddramâu
NOS Wener bydd Cwmni Drama, Llandudoch nôl yn perfformio ar lwyfan y Neuadd Goffa.
Mae actorion y cwmni hwn yn hen gyfarwydd â bod ar lwyfan y neuadd yma yn Nhalgarreg, felly cofiwch y dyddiad a dewch i gefnogi.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.