THE latest community news from Tan Y Groes

Cymdeithas Ceredigion

CYNHELIR cyfarfod cyntaf y tymor newydd ar nos Sadwrn, 9 Medi, am 7yh yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes i drafod cyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.

Fe fydd y llywydd newydd, Emyr Hywel, Tre-saith, yn cadw trefn ar y noson wrth i sawl aelod o’r Gymdeithas bwyso a mesur cynnyrch llenyddol yr Wyl. Disgwylir cryn dipyn o ddadlau a digon o hwyl.

Fel arfer mae gan y Gymdeithas raglen lawn o gyfarfodydd misol.

Ar 7 Hydref, cawn noson yng nghwmni Kees Huysmans, canwr a dyn busnes o fri ac ar ddechrau mis Tachwedd bydd Gregg Lynn o’r Hwntws yn dod. Tribannau fydd ei destun yntau.

Bydd Hoffgan yn cynnig yr adloniant ar ôl Swper Nadolig y Gymdeithas.

Cynhelir Gwasanaeth Plygain y Gymdeithas yng Nghapel Blaenannerch ym mis Ionawr.

Hefin Wyn fydd y siaradwr gwadd y mis canlynol, â’i destun yntau fydd Bachan Diaich.

Y Prifardd Mererid Hopwood fydd y beirniad yn Eisteddfod Gwyl Dewi’r Gymdeithas ac edrychwn ymlaen at ymweliad Catrin Stevens ym mis Ebrill i siarad am Merched ar lawr y Ffatri.

Ar ddechrau Mehefin daw ein taith ddirgel â’r tymor i ben.

Tâl aelodaeth y Gymdeithas yw £5 y tymor o hyd a chodir £2 y cyfarfod ar fynychwyr nad ydynt yn aelodau.

Mae croeso mawr i aelodau newydd. Ceir ymuno naill ai trwy gysylltu â’r Ysgrifennydd Aelodaeth, Howard Williams ([email protected]) neu ar ddechrau pob cyfarfod.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]