THE latest community news from Tanygrisiau

Gweithgareddau ysgol

BU DIWEDD tymor Ysgol Tanygrisiau yn brysur iawn fel arfer ac i ddechrau’r gweithgareddau cafwyd cinio Nadolig blasus dros ben gan staff y cantin ar 13 Rhagfyr.

Y diwrnod canlynol aeth y plant lleiaf i Ysgol Glan y Môr, Pwllheli i weld Sioe Nadolig Cyw.

Wedyn cynhaliwyd sioe Nadolig yr ysgol, sef Nadolig Sinderela gyda’r neuadd yn orlawn efo rhieni, neiniau a theidiau â phawb wedi mwynhau yn fawr iawn.

Bu’r plant yn Llandudno i weld pantomeim Peter Pan ar 19 Rhagfyr ac i orffen yr holl weithgareddau cafwyd parti i bawb yn neuadd yr ysgol. Dymuna’r staff a’r plant ddiolch yn fawr iawn i Laura May Davies am ei rhodd caredig o dda-da i bob un o’r plant.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]