THE latest community news from Y Ganllwyd
Merched y Wawr
CYNHALIWYD y Cyfarfod Blynyddol ar 9 Ebrill.
Dymunwyd gwellhad buan i Margaret Thomas sy’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty a llongyfarchwyd Marian ac Alun ar ddathliad eu priodas aur ddechrau’r mis.
Lluniwyd rhaglen y tymor nesaf a threfnwyd y wibdaith flynyddol y mis nesaf.
Dyma swyddogion y tymor nesaf: cadeirydd, Marian Evans; is-gadeirydd, Mary Jones; ysgrifennydd, Evelyn Lloyd; trysorydd, Maggie Bebb; dosbarthwr Y Wawr, Catherine Davies; gohebydd y wasg, Eirlys Jones.
Cafwyd paned ar y diwedd gan Evelyn ac Eirlys.
Pnawn Sul, 27 Mai, aeth aelodau ar wibdaith i’r Ysgwrn, Trawsfynydd.
Roedd llawer wedi bod yno o’r blaen, rhai fwy nac unwaith, ond dyma’r tro cyntaf i’r rhan fwyaf ei weld ar ôl ei adnewyddu gan Barc Cenedlaethol Eryri.
Gwnaed gwaith anhygoel arno, ac mae’r gegin yn dal i edrych yr un fath; aed i drafferth mawr i gael papur wal mor debyg â phosibl i’r gwreiddiol.
Y Gadair Ddu yw’r unig ddodrefnyn yn y parlwr, a’r cadeiriau eraill i fyny’r grisiau a’r hen offer llaeth a menyn yn y bwtri.
Mae’r hen Feudy Llwyd wedi ei drawsnewid yn llwyr, a digon o le yno i gael paned ac edrych ar y lluniau ar y muriau.
Roedd y tywysydd a’r cynorthwywyr i gyd yn groesawaus iawn ac roedd cyfoeth o wybodaeth i’w gael.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.