Mae grŵp drama o ger Aberteifi wedi codi £1,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.
Cyflwynodd Cwmni Drama Llandudoch siec i Ann Evans, oedd yn cynrychioli’r elusen.
Daeth yr arian o elw nifer o ddramâu byrion a gynhaliwyd yn Neuadd Llandudoch y gwanwyn diwethaf.
Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]






