Madam,
Gair o werthfawrogiad yn gyhoeddus yng ngholofnau’r Cambrian News am raglen arbennig Gwawr Edwards a ddangoswyd ar S4C nos Sadwrn olaf ym mis Hydref.
Roedd ei ffordd hynod o gartrefol yn cyflwyno hanes ei hymweliad ag Ohio ar fan lle sefydlodd cymaint o’i theulu ar ddechrau’r 19eg ganrif wedi iddynt ymfudo o ardal Bethania, Sir Aberteifi i geisio gwell bywyd yn ddiddorol eithriadol ac yn cofnodi digwyddiadau pwysig yn hanes Cymru a rhannau o America yn y cyfnod yma.
Rydym fel Cymry ac yn wir lawer o bobl y tu allan i’n gwlad yn gyfarwydd iawn â llais godidog Gwawr sydd erbyn hyn yn cael ei gyflwyno ar ei halbwm newydd ‘Alleluia’, ac yn ogystal â’i pherfformiadau mewn nifer o gyngherddau ar draws y byd a llawer o gyflwyniadau ‘steddfodol ac mewn stiwdio deledu, ond ar ôl y rhaglen ar S4C dangosodd Gwawr ddawn fawr arall, sef cyflwyno yn llafar a chartrefol trwy’r rhaglen gyfan. Gwerthfawrogodd canoedd o wrandawyr gyflwyniad caboledig ganddi a hefyd ddatganiadau swynol ei thad - y tenor poblogaidd Dafydd Edwards ac yn ogystal â’i chwaer Menna yn cyfeilio yn llawn cydymdeimlad fel cefnder cerddorol trwy’r rhaglen.
Roedd cyflwyniad Gwawr a’i theulu a heb anghofio Nel fach wrth gwrs, fel chwa o awyr iach i ddarlleniadau nos Sadwrn ar S4C.
Yn gywir,
Tegwyn Jones,
Tregarth,
Machynlleth.



.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.