Mae gweinidog adnabyddus o Lanbed wedi cyhoeddi llyfr yn cofnodi atgofion o’r gorffennol, ddaeth nôl i’r cof yn ystod y cyfnod Covid.

Procio’r Cof, yw’r degfed cyfrol i’r Parchedig Goronwy Evans i gyhoeddi.

“Buodd y cyfnod Covid yn gyfle i hel atgofion lu,” meddai. “Mae’r gyfrol yn cynnwys amrywiaeth o hanesion.

"Mae yna straeon am gyfnod fy mhlentyndod yng Nghwmsychbant yn yr 1940au, ac arferion bro o ardaloedd Llanwenog, Llandysul a Llanbed.

“Rwy hefyd yn sôn am fy nghyfnod yn ymwneud ag amrywiol eisteddfodau, yr hwyl o godi arian i elusen Plant Mewn Angen am 30 mlynedd, a nifer fawr o ddigwyddiadau eraill yn ogystal.

"Rwy’n gobeithio bod hi’n gyfrol hawdd ei darllen, sydd â rhywbeth i bawb ynddi.”

Mae Procio’r Cof wedi ei chyhoeddi gan Y Lolfa, ac ar werth am £9.99. Mae ar gael yn Siop y Smotyn Du, Llanbed, a nifer o siopau llyfrau eraill.