Cafwyd gwasanaeth arbennig yng Nghapel Undodaidd Ciliau Aeron dydd Sul diwethaf dan nawdd Cymdeithas Undodaidd Ardal y Smotyn Du er mwyn cael cyflwyno siec o £3,000 i Jen Fisher o’r elusen MND Association er cof am y diweddar Parch Cen Llwyd.

Roedd yr arian wedi cael ei godi drwy gynnal nifer o weithgareddau ar hyd y flwyddyn ddiwethaf.

Diolch i bawb a gymerodd rhan, yn enwedig i Dylan Iorwerth am arwain yr oedfa ac i Bois y Gilfach a Heledd ei harweinydd am ddod atom ni unwaith eto!

Rhoddwyd yr emynau allan gan Megan, Mattie a Bela. Cafwyd gweddi arbennig gan Gwenllïan ac wrth yr organ oedd Ceinwen.

Cynhelir yr oedfa nesaf yn Capel y Fadfa ar fore Sul, 30 Gorffennaf am 10.30yb, pryd y bydd y Parch Wyn Thomas yn arwain yr oedfa.

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]