Yn ystod 2021, cafodd Cymru un o’r cyfnodau prysuraf erioed o ran gweithgarwch ffilm a theledu, gyda mwy na 24 o gynyrchiadau yn cael eu ffilmio ledled y wlad rhwng mis Mai a mis Hydref

Yn ystod cyfnod y Nadolig, cafodd dilynwyr Doctor Who weld y cyntaf o dair rhaglen a fydd yn nodi perfformiad olaf Jodie Whittaker fel y Doctor.

Bydd Russell T Davies, sy’n wreiddiol o Abertawe, yn dychwelyd fel rheolwr y rhaglen i ddathlu pen-blwydd y gyfres yn 60 oed yn 2023, gyda BBC Studios yn cynhyrchu’r rhaglen mewn partneriaeth â Bad Wolf.

Mae trydedd gyfres A Discovery of Witches, a gynhyrchir gan Bad Wolf ac a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ar gael ar Sky Max a NOW o 7 Ionawr, a hon fydd y gyfres olaf.

Mae Cymru wedi cyflwyno cynyrchiadau mawr yn ystod y misoedd diwethaf, gan gynnwys Havoc (Netflix) gyda Tom Hardy a Forest Whitaker, trydedd gyfres His Dark Materials ar gyfer BBC One/HBO, a honno fydd yr un olaf, a chynhyrchiant Lucasfilm newydd sbon – cyfres deledu sy’n seiliedig ar y ffilm wreiddiol glasurol Willow, a gaiff ei dangos ar Disney+.

Disgwylir i’r holl gynyrchiadau hyn – a gefnogir gan Cymru Greadigol – ymddangos ar ein sgrin y flwyddyn yma.

Drwy weithio law yn llaw â chynyrchiadau rhyngwladol mawr, mae Cymru Greadigol hefyd wedi cefnogi cynyrchiadau o Gymru gan gynnwys y ffilm hir The Almond and Seahorse (Mad as Birds) gyda Rebel Wilson a chyfres ddrama chwe rhan The Light / Y Golau gyda Joanna Scanlan, ac Alexandra Raoch ac Iwan Rheon sy’n wreiddiol o Gymru, a gynhyrchir ar y cyd gan Duchess Street Productions a Triongl mewn cydweithrediad ag APC Studios.

Mae Sgrin Cymru (sy’n rhan o Cymru Greadigol) hefyd wedi helpu i gynhyrchu dwy gyfres ddrama newydd ar Channel 4 y disgwylir eu darlledu yn hwyrach yn 2022: The Birth Of Daniel F Harris (Clerkenwell Films) a The Undeclared War (Playground Entertainment) gyda Mark Rylance a Simon Pegg, gan gynnwys fersiwn hir newydd o Lady Chatterley’s Lover a ffilmiwyd yn rhannol yng ngogledd Cymru.

Mae Cymru Greadigol hefyd yn parhau i gefnogi’r sector cynhyrchu annibynnol sy’n ffynnu yng Nghymru ac sy’n cynhyrchu cynnwys ffeithiol arloesol a phoblogaidd.

Cafodd cyfres Avanti Media ar Channel 4 The Perfect Pitch a chyd-gynhyrchiad rhyngwladol Cwmni Da, Rain Stories, y bwriedir eu cyflwyno y flwyddyn nesaf, gefnogaeth drwy gyllid Cymru Greadigol.

Mae’r cynnydd hwn o ran gweithgarwch cynyrchiadau wedi arwain at alw na welwyd ei debyg o’r blaen am weithlu medrus.

Mae Cymru Greadigol wedi bod yn gweithio gyda’r sector er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau ar unwaith.

Mae hyn yn sicrhau bod gan ein gweithlu’r sgiliau cywir ar gyfer y dyfodol i barhau i ddarparu criw o ansawdd uchel ar gyfer cynyrchiadau Cymru a’r rheiny sydd am ffilmio yma.

Mae cyllid Cymru Greadigol yn gwarantu ymrwymiad i gynnig cyfleoedd i hyfforddeion ar ffurf lleoliadau â thâl; ac mae mwy na 120 o hyfforddeion wedi cael budd o weithio ar gynyrchiadau a gefnogwyd gan Cymru Greadigol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Caiff y lleoliadau hyn eu monitro er mwyn helpu i lywio llwybrau gyrfaoedd i bob hyfforddai yn y dyfodol.

Dywedodd Dawn Bowden, dirprwy weinidog y celfyddydau a chwaraeon: “Roedd cael blwyddyn gynhyrchiol yng nghanol pandemig – pan oedd galw enfawr am gynnwys newydd – wedi cyflwyno heriau a chyfleoedd.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld Cymru’n cael ei harddangos yn amlwg ar ein sgriniau y flwyddyn nesaf mewn rhai cynyrchiadau mawr.

“Bydd hyn yn rhoi enw gwell fyth i ni’n fyd-eang fel lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer cynyrchiadau teledu a ffilm, gyda’r criw, y sgiliau, y gofod stiwdio a’r lleoliadau a all wasanaethu pob math o gynyrchiadau.