Mae Clwb Hen Beiriannau Talgarreg wedi cyflwyno siec o £3,000 i Macmillan gyda’r elw’r sioe flynyddol ym mis Medi.

Uchod, gwelir Emyr Evans, cadeirydd a Peter Newill, ysgrifennydd gydag aelod ifanca’r clwb, Cadi, yn cyflwyno’r siec.

Diolch hefyd i Megan a Hefin, Tafarn Glanyrafon gynt am gyflwyno siec o £500 i Macmillan yr un noson. Isod, gwelir Megan gyda Cadi.

Talgarreg Clwb Hen Beiriannau 2.jpg
(Llun wedi'i gyflenwi)

Dyma arian a gasglwyd mewn potel chwisgi gan gwsmeriaid dros y flwyddyn. Ymddeoliad hapus i’r ddau gan holl drigolion yr ardal.

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]