YN diweddar fe wahoddwyd Nia Williams, pennaeth Ysgol Morfa Nefyn a Nia Ferris, athrawes yn yr ysgol, i noson wobrwyo Estyn yng Nghaerdydd.

Roedd y digwyddiad hwn wedi’i drefnu i gydnabod rhagoriaeth mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn enwedig gwaith darparwyr a gafodd farn arolygu gyffredinol ‘rhagorol’ yn ystod y flwyddyn academaidd 2015-2016.

Derbyniodd staff dysgu Ysgol Morfa Nefyn gwahoddiad am eu bod nhw yn un o’r darparwyr yna a cafodd y ddwy fwynhau noson arbennig iawn ym Mhrif Ddinas Cymru a mwynhau pryd o fwyd yng nghwmni Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru a Kirsty Williams, AC, ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yn Llywodraeth Cymru.

Yn y llun o’r chwith: Meilyr Rowlands (Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru), Nia Ferris (athrawes Ysgol Morfa Nefyn), Nia Williams (pennaeth Ysgol Morfa Nefyn) a Kirsty Williams, AC (ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yn Llywodraeth Cymru)