WYTHNOS ddiwethaf fe gynhaliodd yr awdur Meinir Wyn Edwards o Llandre, ger Aberystwyth, gyfres o weithdai arbennig ar gledrau Lein y Cambrian, gan gyflwyno rhai o chwedlau mwyaf adnabyddus Cymru i ddisgyblion Ysgol Tanycastell, Harlech, ac Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth.

Trefnwyd y Daith Awdur ar y cyd gan y Cyngor Llyfrau a threnau Arriva Cymru wedi i gyfrol Meinir, Deg Chwedl o Gymru a gyhoeddwyd gan wasg y Lolfa, gael ei chynnwys ar restr fer Gwobr Tir na n-Og eleni. Mae llyfrau Meinir am chwedloniaeth Cymru, cyfres Chwedlau Chwim a Folk Tales in a Flash!, eisoes wedi profi’n boblogaidd iawn ymhlith plant yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Cafodd y disgyblion y cyfle i ddysgu am dreftadaeth lenyddol a diwylliannol Cymru wrth gael blas ar chwedlau oedd yn perthyn i’w hardaloedd.

“Mae’r syniad o daith Chwedlau ar y Cledrau yn wych,” meddai Meinir Wyn Edwards, yn gwreiddiol o Boncath yn sir Benfro. “Mae hi’n Flwyddyn y Chwedlau eleni wrth gwrs, a pha le gwell i adrodd rhai o’n straeon mwyaf cyfarwydd ni nag yn y llefydd maen nhw wedi eu lleoli. Roedd y daith ar hyd arfordir Bae Ceredigion yn fendigedig. Does dim rhyfedd ei bod hi’n un o deithiau trên mwyaf epig y byd, yn ôl papur newydd y Guardian!”

Darllenwch yr holl erthygl yn y Cambrian News wythnos yma