Mae cyfres newydd sbon o’r sioe garddio boblogaidd Garddio a Mwy yn ôl a’r S4C ar nos Lun, 4 Ebrill i’n tywys ni drwy’r tymhorau yn yr ardd.

Yn ogystal â’r arlwy arferol o hau a phlannu, bwyd tymhorol, hybu natur, a blodau bendigedig, bydd y gyfres yn ymweld â gerddi ar hyd a lled y wlad, ac mi gawn gyfarfod wynebau newydd a rhai cyfarwydd hefyd wrth i’r gyfres fynd yn ei blaen.

Meddai Meinir Gwilym, cynhyrchydd ac un o gyflwynwyr y gyfres: “Mae Garddio a Mwy hefyd yn annog pobol i dreulio amser yn yr awyr agored, a bob amser yn pwysleisio nad oes yn rhaid i chi gael gardd i allu garddio.

“Bydd y gyfres hefyd yn cynnig syniadau am brosiectau DIY, ac os nad ydyn ni’n ffans o weithio yn yr ardd, gallwn ddianc efo’r gyfres i fyd o flodau.

“Mae gan Garddio a Mwy gymuned fywiog o ddilynwyr ar-lein, ac eleni bydd y gyfres yn cynnal ‘Her Tyfu Garddio a Mwy’ fydd yn gyfle i bobol roi cynnig ar dyfu eu bwyd eu hunain am y tro cynta’, gan ddilyn hynt a helynt sawl wyneb cyfarwydd fydd yn mynd i’r afael â’r un her,” meddai Meinir.

Tîm Garddio a Mwy
Tîm Garddio a Mwy (S4C)

Eleni eto, cawn gyfle i weld trefniadau blodau hyfryd Sioned Edwards wrth iddi ymweld â gerddi syfrdanol yng Nghymru, a chreu gosodwaith efo rhai o’r blodau sydd ar eu gorau yn ystod ei hymweliad.

Awn at dŷ Sioned a’i gŵr Iwan ym Mhont-y-Tŵr yn Nyffryn Clwyd lle fydd Iwan yn tyfu bwyd yn yr ardd lysiau i fwydo’r teulu.

Byddwn hefyd yn ymweld â Meinir yn ei gardd odidog ym Mhant-y-Wennol, Trefor wrth iddi rannu llwyth o syniadau ar sut i wneud y gorau o’ch gardd.

Bydd cyfle i wylwyr gyfarfod cyflwynwyr achlysurol newydd eleni hefyd, gan gynnwys Heledd Evans, Adam Jones, Carol Williams, Naomi Saunders, Ian Keith Jones a Rhys Rowlands – bob un yn arbenigo mewn gwahanol faes.

Yn ystod y gyfres bydd tîm Garddio a Mwy yn ymweld â’r Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne, Sir Gâr a bydd rhaglen arbennig awr o hyd ar Ddydd Llun y Pasg (18 Ebrill), yn llawn syniadau am jobsys i’w cwblhau a phethau difyr i wneud yn yr ardd efo’r plant.

Garddio a Mwy, pob nos Lun 8.25, S4C. Isdeitlau Saesneg. Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill. Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C