Cynhaliwyd penwythnos o Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen llwyddiannus ym Mhafiliwn y Bont dros benwythnos Gŵyl y Banc.
Yr beirniaid oedd Eleri Owen Edwards ac Andrew Rees (Cerdd), Owain Sion (Cerdd Dant ac Alaw Werin), Rhian Parry (Llefaru) a’r Prifeirdd Gwenallt Llwyd Ifan a Dafydd Pritchard (Llenyddiaeth) yn tystio i safon y cystadlu fod o’r radd uchaf.
Y cyfeilyddion oedd Rhiannon Pritchard a Lona Phillips (piano) a Kim Lloyd Jones (telyn). Llywydd yr Ŵyl oedd un o ffyddloniaid yr eisteddfodau, Jean Williams, Cefnmeurig.
Enillwyr
Parti Canu Oedran Ysgol Gynradd: Adran Aberystwyth. Parti Llefaru oedran Ysgol Gynradd: Parti Pontrhydfendigaid. Côr Plant oedran Ysgol Gynradd: Adran Aberystwyth. Ymgom oedran Ysgol Gynradd: Ysgol Pontrhydfendigaid. Unawd Offerynnol Bl 6 ac iau: Hywyn Euros, Pwllheli. Ymgom Ysgol Uwchradd: Elin Williams a Delun Davies, Ysgol Henry Richard. Unawd Offerynnol Bl 7, 8 a 9: Gruffydd Sion, Aberystwyth. Parti Canu Agored: Merched Soar, ardal Tregaron. Unawd Offerynnol Bl 10 a throsodd: Catrin Edwards, Aberaeron. Cystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau Cymru Perfformio Darn Digri’: Ifan Meredith, Llanbedr Pont Steffan. Ensemble Offerynnol: Band Offerynnol Tref Aberystwyth. Enillydd Tlws Coffa Parhaol Goronwy Evans i’r chwaraewr Pres gorau yn y cystadlaethau Offerynnol: Gruffydd Sion, Llandre.
Unawd Bl 2 ac iau: Neli Evans Talgarreg. Llefaru Bl 2 ac iau: Neli Evans, Talgarreg. Unawd Bl 3 a 4: Nanw Melangell Griffiths-Jones, Cwrt Newydd. Llefaru Bl 3 a 4: Sara Lewis, Mydroilyn. Unawd Bl 5 a 6: Efan Evans, Talgarreg. Llefaru Bl 5 a 6: Angharad Davies, Llanwennog. Unawd Alaw Werin Bl 6 ac iau: Ella Gwen, Bronant. Unawd Cerdd Dant Bl 6 ac iau: Nanw Melangell Griffiths-Jones, Cwrt Newydd.
Unawd Bl 7, 8 a 9: Fflur McConnell, Aberaeron. Llefaru Bl 7, 8 a 9: Fflur McConnell, Aberaeron. Unawd Oedran Bl 10 i 13: Elain Rhys, Trawsfynydd. Llefaru Oedran Bl 10 i 13: Elin Williams, Tregaron. Unawd Cerdd Dant Bl 7 i 13: Elain Rhys, Trawsfynydd. Unawd Alaw Werin Bl 7 i 13: Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrt Newydd.
Unawd Cerdd Dant: Trefor Pugh, Trefenter. Unawd Alaw Werin: Trefor Pugh, Trefenter. Unawd o Sioe Gerdd, Opera Ysgafn neu Ffilm i rai dan 19 oed: Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrt Newydd. Llefaru dan 25 oed: Swyn Efa Tomos, Pencarreg. Unawd dan 25 oed: Llinos Hâf Jones, Penarth.
Unawd Allan o Sioe Gerdd, Opera Ysgafn neu Ffilm – Agored: Tara Camm, Abertawe. Cyflwyniad Dramatig Unigol: Swyn Efa Tomos, Pencarreg. Cwpan Her Parhaol Moc Morgan am berfformiad gorau’r noson: Tara Camm, Abertawe. Deuawd Agored: Efan Wiliams, Lledrod a Barry Powell, Llanfihangel y Creuddyn. Unawd Gymraeg: Heulen Cynfal, Parc Y Bala. Canu Emyn dros 60 oed: Vernon Maher, Saron, Llandysul. Llefaru Unigol o’r Ysgrythur: Maria Evans, Rhydargaeau. Unawd Oratorio: Heulen Cynfal, Parc Y Bala. Prif Gystadleuaeth Lefaru Unigol: Jane Altham Watkins, Abertawe. Her Unawd dros 25 oed: Sion Eilir Roberts, Rhuthin.
Canlyniadau Testunau Llenyddiaeth
Y Goron: Hilma Lloyd Edwards, Bontnewydd. Y Gadair: Arwel ‘Rocket’ Jones, Aberystwyth. Emyn: John Meirig Edwards, Aberhonddu. Englyn: Emyr Jones, Caerdydd. Stori Fer: John Meirig Edwards, Aberhonddu. Cywydd: Jo Hyde, Rickmansworth. Soned neu Delyneg: Mynediad 1, 2 a 3, John Meirig Edwards, Aberhonddu. Tlws Yr Ifanc: Erin Trysor, Llangeitho. Talwrn Y Beirdd: Ysgol Farddol Caerfyrddin.
Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]