DENISE Lewis Poulton yw Cadeirydd newydd Pwyllgor Cymru Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol; Ymddiriedolwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol.
Cafodd apwyntiad yr arbenigwr materion corfforaethol a chyfathrebu strategol ei gyhoeddi gan y DCMS (Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon) ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Ganed Denise – sydd yn siarad Cymraeg y rhugl, yn Adpar, Castell Newydd Emlyn, Ceredigion a chafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Llandysul a Choleg y Brenin, Prifysgol Llundain.
Yn rhinwedd ei swydd newydd, bydd Denise yn goruchwylio’r gwaith o ddyfarnu hyd at £10 miliwn bob blwyddyn mewn grantiau i brosiectau treftadaeth ledled Cymru.
Yn ystod ei gyrfa, bu Denise yn gweithio mewn rolau arwain gyda chwmnïau telathrebu amlwladol a FTSE cyn cychwyn ei rôl fel Cyfarwyddwr Grŵp Materion Corfforaethol yn Orange plc.
Mae hi’n bresennol yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar S4C – y darlledwr teledu Cymraeg a sianel aml-gyfrwng Cymru.
Bu Denise hefyd yn gwasanaethu ar fyrddau Casgliad Wallace ac Opera Cenedlaethol Cymru ac fel is-lywydd Gŵyl Lenyddol y Gelli.
Dywedodd Dr Simon Thurley CBE, Cadeirydd, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Rwy’n falch iawn o groesawu Denise Lewis Poulton fel Ymddiriedolwr.
"Bydd ei hangerdd dros harneisio pŵer treftadaeth, diwylliant a’r celfyddydau wrth adfywio cymunedau yng Nghymru a ledled y DU yn chwarae rhan hollbwysig yn natblygiad ein strategaeth ddeng mlynedd.
"Mae’n ymuno â Bwrdd sydd wedi ymrwymo i adeiladu sector treftadaeth gydnerth ar gyfer pobl a lleoedd ledled y DU.
"Edrychaf ymlaen at weithio gyda hi wrth i ni ysgogi arloesedd a phartneriaethau i sicrhau bod ein treftadaeth yn cael ei chadw’n ddiogel am genedlaethau i ddod."
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru ar gyfer Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Rwy’n falch iawn o estyn croeso cynnes Dydd Gŵyl Dewi i Denise.
"Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru ac i dreftadaeth Cymru. Rydym wedi ariannu rhai prosiectau treftadaeth eithriadol yn y gorffennol gan gynnwys adfer Lido Pontypridd, ailddatblygu’r Hen Goleg yn Aberystwyth, Amgueddfa Llandudno, prosiect Windrush Cymru a Seagrass Ocean Rescue i sôn am rai yn unig.
"Wrth groesawu Denise hoffwn hefyd dalu teyrnged i’n Cadeirydd ymadawol y Farwnes Kay Andrews am ei chyfraniad arbennig dros y saith mlynedd diwethaf.
"Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Denise a Phwyllgor Cymru i barhau i gefnogi treftadaeth gyfoethog a bywiog Cymru.”
Bydd Denise yn cadeirio ei chyfarfod cyntaf o Bwyllgor Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ar 16 Mawrth.