Eisteddfod Gadeiriol Capel y Groes

CYNHALIWYD Eisteddfod Gadeiriol Capel y Groes, Llanwnnen, ar ddydd Mercher, 30 Mawrth. Eisteddfod lwyddiannus iawn o safon uchel yn ôl y beirniaid.Ein beirniaid eleni oedd: Siw Hughes, Peniel (cerdd); Geraint Hughes, Peniel, (adrodd); ac Owenna Davies (llên). Cyfeilydd oedd Lynne James o Gastell Newydd Emlyn.Llywydd y dydd oedd David Williams, Pleasant Hill, Blaencwrt.Enillydd y gadair oedd Meirion Sion Thomas, Gilfachwen. Roedd y gadair yn rhoddedig gan Magw Hughes, Llanwnnen, a wnaed eleni eto gan Aled Davies, Caerwedros.Cyfyngedig: Canu dan 8 oed: Erin Mair, Drefach; Adrodd dan 8 oed: Fflur Morgan, Drefach; Canu dan 8 oed tan gadael ysgol gynradd: Ifan Meredith, Llanbedr Pont Steffan; Adrodd dan 8 oed tan gadael ysgol gynradd: Ifan Meredith, Llanbedr Pont Steffan; Unawd dan 6 oed: Gwenan Lloyd Owen. Llanllwni; Adrodd dan 6 oed: Mari Williams, Tregaron; Unawd 6-8 oed: Ifan Williams, Tregaron; Adrodd 6-8 oed: Ifan Williams, Tregaron; Unawd 8-10 oed: Alwena Mair Owen, Llanllwni; Adrodd 8-10 oed: Elin Williams, Tregaron; Unawd 10-12 oed: Glesni Haf Morris, Llanddeiniol; Canu Emyn dan 12 oed: Cadi Gwen Williams, Aberystwyth; Unawd ar unrhyw offeryn cerdd dan 12 oed: 1. Nia Beca Jones, Llanwnnen; Parti Canu i ysgolion cynradd: Ysgol Cwrtnewydd; Parti Cyd-adrodd i ysgolion cynradd: Ysgol Cwrtnewydd; Canu Emyn 12-16 oed: Beca Fflur Williams, Aberystwyth; Darllen darn o’r Ysgrythur dan 16 oed: Megan Davies, Llanarth; Adrodd dan 16 oed: Megan Teleri Davies, Llanarth; Unawd 12-16 oed: Beca Fflur Williams, Aberystwyth; Adrodd 12-16 oed: Beca Fflur Williams, Aberystwyth; Deuawd dan 16 oed: Beca Fflur a Cadi Gwen Williams, Aberystwyth; Unawd ar unrhyw offeryn cerdd 12-16 oed: Megan Teleri Davies, Llanarth; Unawd 16-21 oed: Sioned Howells, New Inn; Adrodd 16-21 oed: Gwenllian Llwyd, Talgarreg; Sgen ti Dalent: 1. Heledd a Gwenllian Llwyd, Talgarreg; Canu Emyn agored: Gwenllian Llwyd, Talgarreg; Her Adroddiad dros 21 oed: Enfys Hatcher, Llanddewi Brefi; Unawd allan o unrhyw Sioe Gerdd: Heledd Llwyd, Talgarreg; Her Unawd dros 21 oed: 1. Gwenan Jones, Llanbedr Pont Steffan. Llenyddiaeth: Cystadleuaeth y gadair - Cerdd gaeth neu rydd: Meirion Sion Thomas, Llanbedr Pont Steffan. Stori neu Gerdd dan 16 oed: Olwen Mei, Llanuwchllyn; Hanna Davies, Gwyddgrug ac Elinor Griffiths, Llanddewi Brefi; Cyfnod Sylfaen (Meithrin - Bl 2): Fflur Morgan, Drefach; Erin Mair, Drefach a Mari Williams, Tregaron; Cyfnod Allweddol (Bl 3-6): Lucy Moes, Ysgol Cwrtnewydd; Cân ysgafn neu ddychen: Megan Richards, Aberaeron; Cerdd ar fydr neu odl: Megan Richards, Aberaeron; Ysgrif neu draethawd: Mary Morgan, Llanrhystud; Brawddeg: “Mai”; Gorffen Limrig: Mary Morgan, Llanrhystud; Brysneges neu neges Trydar: Megan Richards, Aberaeron; Hysbyseb: Mary Morgan, Llanrhystud a Megan Richards, Aberaeron.