CAFWYD cystadlu brwd a safonol mewn awyrgylch hwyliog a chartrefol nos Wener a Sadwrn, 27 a 28 Ebrill.

Cafwyd y gefnogaeth arferol o Ysgol Penrhyncoch ac eraill ar y nos Wener a gwelwyd cystadleuwyr o ardal helaeth ar y dydd Sadwrn.

Y beirniaid ar y nos Wener (lleol) oedd: Cerdd, Efan Williams, Lledrod; Llefaru, Rhian Gareth, Caernarfon.

Beirniaid dydd Sadwrn (agored) oedd: Cerdd, Nia Morgan, Y Bala; Llefaru, Rhian Parry, Sarn Mellteyrn; Llên, Hywel Griffiths, Llanbadarn.

Cyfeiliwyd gan Llio Adams nos Wener a Gareth Thomas, Rhydaman, ddydd Sadwrn.

Yr arweinyddion oedd: Bethan Evans, Sion Wyn Hurford, Gregory Vearey-Roberts, Manon Reynolds, Alun John a Sara Gibson.

Y llywyddion oedd: Gruff Lewis, Talybont, Wener; Elin Haf Huxtable, Caerdydd, prynhawn Sadwrn; a Sion Meredith, Cefn-llwyd, nos Sadwrn.

Swyddogion y pwyllgor yw: Marianne Jones-Powell, cadeirydd; Ceris Gruffudd, ysgrifennydd; Llio Adams, is-ysgrifennydd; Robert Dobson a Bethan Davies, trysoryddion.