HEDDIW mae Comisiynydd y Gymraeg yn cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr sydd yn craffu ar sefyllfa’r Gymraeg dros y pum mlynedd diwethaf ac yn edrych yn hyderus i’r dyfodol. Yn ôl Efa Gruffudd Jones, rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru weithredu yn fwriadol ac yn uchelgeisiol os ydym am greu rhagor o siaradwyr a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg.

Yn yr adroddiad, gaiff ei gyhoeddi bob 5 mlynedd, mae’r Comisiynydd yn nodi tri chyfle penodol y mae angen mynd i’r afael â nhw er mwyn cryfhau sefyllfa’r Gymraeg i’r dyfodol sef:

  • Creu siaradwyr Cymraeg hyderus drwy’r gyfundrefn addysg
  • Cryfhau’r defnydd cymunedol o’r Gymraeg
  • Creu gweithleoedd sy’n cefnogi’r Gymraeg

O fewn i'r tri maes hyn mae deg blaenoriaeth benodol wedi eu hadnabod sydd yn nodi'r cyfleoedd ymarferol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i sefyllfa'r Gymraeg.

Mae’r rhain yn adeiladu ar alwadau’r Comisiynydd yn ei maniffesto ar gyfer etholiad Senedd Cymru a hefyd ei chynllun strategol a gyhoeddwyd y llynedd.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, rhaid ymateb yn gadarnhaol i’r galwadau hyn: “Rwy’n cyhoeddi’r adroddiad hwn ar drothwy etholiad Senedd 2026, etholiad arwyddocaol yn ein hanes ni fel cenedl.

“Beth bynnag a ddigwydd o ran y pleidleisiau, rydym yn gwybod i sicrwydd y bydd gennym ni, am y tro cyntaf, 96 Aelod Senedd yn cynrychioli pobl Cymru. Bydd yr aelodau hynny yn cynrychioli etholaethau newydd, etholaethau sydd ag enwau Cymraeg yn unig iddynt – arwydd symbolaidd yn ei hun o hyder a balchder cenedlaethol yn ein hiaith.

“Ond nid yw symboliaeth yn ddigonol. Mae angen i Lywodraeth nesaf Cymru weithredu yn bwrpasol ac yn gadarnhaol er lles y Gymraeg gan gyflwyno ymyraethau beiddgar o blaid yr iaith. Dyma’r unig ffordd i drawsnewid y sefyllfa bresennol os ydyn ni o ddifri am ddyblu’r defnydd dyddiol a chyrraedd y miliwn erbyn 2050.”

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnig dadansoddiad manwl o ganlyniadau Cyfrifiad 2021 mewn perthynas â’r Gymraeg. Y nod yw casglu’r prif ystadegau ynghyd gan dynnu sylw at y rhai mwyaf arwyddocaol i sefyllfa’r Gymraeg. Mae’r adroddiad hefyd yn troi’r chwyddwydr ar rai tueddiadau rhanbarthol a lleol ac yn gosod canlyniadau Cyfrifiad 2021 yng nghyd-destun cyfrifiadau blaenorol.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, mae’r dadansoddiad o ganlyniadau’r Cyfrifiad yn ymgais i dreiddio’n ddyfnach i’r ystadegau ac i gael gwell dealltwriaeth ohonynt: “Mae i’r adroddiad hwn dair rhan ac wrth i ni ystyried canlyniadau’r Cyfrifiad yn y rhan gyntaf mae hynny’n rhoi sail a sylfaen i ni i’r rhannau dilynol.

“Ynddo rydym yn craffu ar ddata o ffynonellau eraill am greu siaradwyr Cymraeg a chynyddu defnydd o’r iaith ac yn olrhain y prif ddatblygiadau polisi yn y meysydd hyn. Rydym yn gorffen bob adran drwy adnabod blaenoriaethau a chyfleoedd i’r pum mlynedd nesaf.

“Gwahoddiad yw’r adroddiad mewn gwirionedd i Lywodraeth newydd Cymru, aelodau Seneddol o bob plaid, llunwyr polisi a phob un ohonom sy’n ymddiddori yn y Gymraeg i ddarllen ein dadansoddiad o sefyllfa’r Gymraeg heddiw. Dim ond drwy oedi i ddeall ac ystyried sefyllfa’r Gymraeg heddiw y gallwn ni gynllunio’n effeithiol ar gyfer yfory.

“Mae gen i uchelgais fawr ar gyfer y Gymraeg a’i siaradwyr. Rydw i am weld Cymru lle mae byw yn Gymraeg yn ddewis gwirioneddol i’w thrigolion, a byddaf yn gwbl ddiwyro er mwyn gwireddu hynny.”