Y GÂN gan Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer yw enillydd Cân i Gymru 2026.

Cafodd y gân ei dewis yn fuddugol trwy bleidlais gyhoeddus gan wylwyr y rhaglen Cân i Gymru ar S4C heno (28 Chwefror) yn fyw o Faes Sioe Môn.

Mae Y GÂN yn ennill tlws Cân i Gymru a'r wobr o £5,000.

Y GWANWYN BACH gan Rhydian Meilir a Myrddin ap Dafydd oedd yn ail ac yn ennill gwobr o £3,000 a STORM HENO gan Rhodri Lloyd Evans ddaeth yn drydydd ac yn derbyn £2,000.

Dyma’r ail gân gan Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer a gyrhaeddodd y rhestr fer eleni. Fe gollodd Emlyn 3 ffrind yn sydyn iawn ac roedd hynny yng nghefn ei feddwl wrth ysgrifennu geiriau’r gân.

Y gantores Sara Owen oedd yn perfformio’r gân.

Meddai Geth: "Diolch yn fawr iawn i chi. Fel cerddor o Ynys Môn, mae hwn yn golygu’r byd i fi.

"Diolch yn fawr i’r ddau yma, diolch i’r holl deulu a diolch i Sara am ganu hi mor wych.”

Ychwanegodd Emlyn Gomer bod perfformiad Sara yn “anhygoel.”

Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr oedd yn cadeirio panel y rheithgor.

Yn ymuno ag Osian ar y rheithgor eleni, roedd Barry ‘archie’ Jones o’r band Celt, y gantores a'r gyfansoddwraig, Mali Hâf, y cyflwynydd a’r DJ radio, Mirain Iwerydd, a phrif leisydd y band Gwilym, Ifan Pritchard.

Gallwch ail-fyw holl gyffro noson Cân i Gymru 2026, ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Cynhyrchiad Afanti Media ar gyfer S4C.