BYDD ffilm nodwedd Gymraeg S4C, Effi o Blaenau, yn cael ei rhyddhau mewn sinemâu ledled Cymru’r haf hwn.

Bydd y ffilm, sydd wedi’i chyd-ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol, yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn fyd-eang yng Ngŵyl Ffilm Glasgow ar 3 Mawrth, ynghyd â première ym Mlaenau Ffestiniog ychydig cyn ei rhyddhau.

Bydd Effi o Blaenau yn cael ei rhyddhau mewn sinemâu ledled Cymru a’r DU drwy MetFilm Distribution ar 19 Mehefin, cyn cael ei darlledu ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer ddiwedd eleni.

Mae’r ffilm, sy'n addasiad o Iphigenia in Splott, drama ddirdynol Gary Owen, wedi’i lleoli yn nhirlun mynyddig agored Eryri yng Ngogledd Cymru.

Wedi’i chyfarwyddo gan Marc Evans (Mr Burton) a’i chynhyrchu gan Branwen Cennard (Tarian) yn ei ffilm nodwedd gyntaf, mae’r ffilm yn dilyn Effi, menyw ifanc sy’n cael profiad uniongyrchol o bris personol methiannau ein cymdeithas, gyda pherfformiad disglair gan yr actores dalentog, llawn addewid, Leisa Gwenllian (Itopia ar S4C, On the Sea ac Under Salt Marsh gan Sky). Mae hefyd yn cynnwys Tom Rhys Harries (White Lines ar Netflix, Suspicion ar Apple TV) cyn ei brif ran yn ffilm newydd DC Studios, Clayface.

Wrth i Effi ddygymod â’i chylch wythnosol o ddiweithdra, clybio, a chur pen, mae’n digwydd cwrdd â Lee, milwr wedi’i anafu, mewn clwb nos yn Llandudno, sydd am eiliad yn agor y drws i rywbeth gwell. Am funud, mae Effi’n cael cipolwg ar fywyd na fuasai hi erioed wedi’i ddychmygu. Mae’r realiti sy’n dilyn yn llawer anos.

Mae’r ffilm wedi derbyn adolygiadau cadarnhaol yn ystod diwrnod rhagflas Canolfan Film Cymru, gydag arddangoswyr o Gymru yn ei disgrifio fel “Atmosfferig”, “Ffantastig” ac “wedi’i gwreiddio yn ei chymuned.” Canmolodd un arall ei “stori gymhellol a chymeriadau realistig”.

Dywedodd Pennaeth Ffilm a Drama S4C, Gwenllian Gravelle: “Mae S4C yn falch o gefnogi Effi o Blaenau ac yn ddiolchgar i’r tîm cynhyrchu ac i Gymru Greadigol am helpu i ddod â hi i’r sgrin fawr yng Nghymru a thu hwnt.

“Mae’r ffilm yn brofiad sinematig sy’n tarddu o le penodol ond sy’n taro deuddeg yn emosiynol ym mhobman. Wedi’i siapio gan dirlun cryf a manylion bywyd bob dydd, mae’r ffilm yn trawsnewid y cyfarwydd yn rhywbeth gafaelgar ac epig.”

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant: “Tirwedd dramatig Blaenau Ffestiniog sy’n gefndir i Effi o Blaenau, gyda’i thirluniau niwlog, atmosfferig yn ychwanegu’n sylweddol at stori heriol Effi. Mantais wych arall i’r cynhyrchiad hwn o Ogledd Cymru yw’r gwerth economaidd a’r cyfleoedd gwaith a grëwyd yn lleol.

“Mae’r ffilm hon yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd partneriaid yn y diwydiant – yn yr achos hwn S4C – a Chymru Greadigol yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi prosiectau creadigol uchelgeisiol, gan roi pob cyfle iddynt lwyddo’n fasnachol a chyrraedd cynulleidfaoedd byd-eang.

“Mae’n wych bod Effi o Blaenau wedi’i dewis ar gyfer Gŵyl Ffilm Glasgow, lle y bydd yn cael ei dangos am y tro cyntaf o flaen y sawl sy’n gwneud penderfyniadau a dylanwadwyr o bob cwr o ddiwydiant ffilm y byd. Am foment gyffrous i greu ffilmiau yng Nghymru.”

Ychwanegodd MetFilm Distribution: “Rydym wrth ein boddau’n arwain y gwaith o ryddhau Effi o Blaenau mewn theatrau ledled y DU. Mae’r tîm cynhyrchu wedi creu addasiad gwirioneddol sinematig sy’n driw i ddrama wreiddiol Gary Owen, ac mae perfformiad gwefreiddiol Leisa Gwenllian yn angor i'r cyfan. Edrychwn ymlaen yn arw i gynulleidfaoedd ym mhobman gwrdd ag Effi.”