CYHOEDDIR diweddariad o un o brif ogoniannau ein llenyddiaeth ni fel Cymry – yr un chwedl ar ddeg a geir yn y Mabinogion – gan Dafydd a Rhiannon Ifans ar ei newydd wedd gan Y Lolfa.

Mae’r argraffiad newydd ar fformat clawr meddal ac yn cael ei ailgyhoeddi ar ôl bod allan o brint ers blynyddoedd.

Ceir rhagymadrodd manwl gan y diweddar Athro Emeritws Brynley F. Roberts yn trafod arwyddocâd y chwedlau a hanes eu trosglwyddo dros y canrifoedd.

Cyhoeddwyd y gyfrol yn wreiddiol gan wasg Gomer yn 1980, gan gael ei gydnabod fel yr addasiad safonol o’r chwedlau Cymreig.

Meddai Mererid Hopwood am y gyfrol: “Dyma gymwynas o gyfrol a rydd gyfle i ni, siaradwyr Cymraeg heddiw, ddod i adnabod hynt a helynt y cymeriadau a fu’n llenwi dychymyg Cymry ddoe.

“Bu disgwyl mawr am argraffiad newydd, ac mae ein diolch yr un mor fawr i’r diweddarwyr, Dafydd a Rhiannon Ifans, am lafur cariad a sicrhaodd yfory newydd i’r casgliad gwerthfawr hwn.”

Mae Y Mabinogion, diweddariad gan Dafydd a Rhiannon Ifans ar gael nawr (£12.99, Y Lolfa).